
2010 Rhif 1876 (Cy.181)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (Diddymu) 2010
Gwnaed 21 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym 20 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 26(1)(b) a (5) a 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe (“Gower College Swansea Further Education Corporation”) wedi cydsynio â throsglwyddoeiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion (“Gorseinion College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (“Swansea College Further Education Corporation”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion (“ Gorseinion College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (“Swansea College Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.

Felly, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 20 Awst 2010.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac
 ystyr “yr Hen Gorfforaethau” (“the Old Corporations”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion (“Gorseinion College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (“Swansea College Further Education Corporation”).
Diddymu a throsglwyddo
3 
Ar 20 Awst 2010 diddymir pob un o'r Hen Gorfforaethau a throsglwyddir eu holl eiddo, eu hawliau a'u rhwymedigaethau yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bell ach Coleg Gŵyr Abertawe (“Gower College Swansea Further Education Corporation”), sy'n gorff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau a gwasanaethau addysgol.
Trosglwyddo staff
4 

(1) Mae unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan y naill neu'r llall o'r Hen Gorfforaethau yn union cyn 20 Awst 2010 wedi ei ddynodi at ddibenion paragraff (2) yn unol ag adran 26(1)(b) a (5) o'r Ddeddf (“personau dynodedig”).
(2) Mae adran 26 o'r Ddeddf yn gymwys i'r personau dynodedig fel petai'r cyfeiriadau yn is-adrannau (2), (3) a (4)—
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson dynodedig;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 20 Awst 2010;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at yr Hen Gorfforaeth sy'n cyflogi'r person dynodedig yn union cyn 20 Awst 2010; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe (“Gower College Swansea Further Education Corporation”).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
21 Gorffennaf 2010