
2010 Rhif 1849 (Cy.180)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 19 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym 1 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau at yr Atodiad i'r offeryn UE a grybwyllwyd yn rheoliad 3 fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Hydref 2010.
Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
2 
Diwygir Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn ll lle'r diffiniad o “y Rheoliad” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “y Rheoliad” (“the Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir ar fwydydd gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau i Atodiad y Rheoliad hwnnw a gaiff eu gwneud o bryd i'w gilydd.”.
Gwerda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Gorffennaf 2010