
2010 Rhif 1822 (Cy.179)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 14 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym 9 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Awst 2010.
Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (“y prif Reoliadau”) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle paragraff 4(3) o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, rhodder—“
4 

(3) Ystyr “labordy profi cymeradwy” yw—
(a) labordy a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn;
(b) labordy a gymeradwywyd o dan ddeddfwriaeth gyfatebol mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig;
(c) un o Labordai Cyfeirio Cenedlaethol yr UE; neu
(ch) labordy diagnostig a gymeradwywyd gan Aelod-wladwriaeth yn unol ag Atodiad X i Rheoliad TSE y Gymuned.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2010