Cafodd yr Offeryn Statudol hwn ei ailargraffu er mwyn cywiro rhif yr offeryn a dyroddir ef yn ddi-d 226 l i bawb y gwyddys eu bod wedi derbyn OS 2010/1791(Cy.173)
2010 Rhif 1797 (Cy.173)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 10 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym 31 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 31 Awst 2010.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
3 
Diwygir Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 yn unol â'r rheoliad canlynol.
4 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 28—
(a) yn lle “rheoliad 33” rhodder “rheoliad 27”; a
(b) yn lle “rheoliad 27” rhodder “rheoliad 29”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2010