
2010 Rhif 1780 (Cy.169)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010
Gwnaed 8 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym 30 Gorffennaf 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad y Comisiwn (EC) 616/2009 a weithredir gan y Gorchymyn hwn gael effaith fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2010.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn:—
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 616/2009 sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ynghylch cymeradwyo compartmentau dofednod a chompartmentau eraill ar gyfer adar caeth mewn perthynas â ffliw adar a mesurau bioddiogelwch ychwanegol i'w atal mewn compartmentau o'r fath, fel y diwygir y Gyfarwyddeb honno o bryd i'w gilydd;
 ystyr “safle cynhyrchu” (“production site”) yw mangre lle mae dofednod yn cael eu cadw at ddibenion bridio, magu, pesgi neu gynhyrchu wyau ac sy'n destun cais o dan erthygl 4; ac
 ystyr “safle gweinyddol” (“administrative site”) yw mangre lle y mae dogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â safle cynhyrchu yn cael eu cadw.
Yr awdurdod cymwys
3 
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn.
Ceisiadau
4 
Rhaid i geisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o gompartmentau gael eu gwneud ar y ffurflenni a ddarperir gan Weinidogion Cymru ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Pŵer arolygwyr
5 

(1) Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â 'r Gorchymyn hwn—
(a) mynd i mewn i unrhyw fangre a gymeradwywyd yn gompartment o dan y Gorchymyn hwn ac i unrhyw safle gweinyddol sy'n cynnwys cofnodion sy'n berthnasol ar gyfer cymeradwyo safle yn gompartment;
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;
(c) symud a dal gafael ar gopi o unrhyw ddogfen neu gofnod;
(ch) cael mynediad i, ac archwilio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnodion;
(d) pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith;
(dd) mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu unrhyw berson y mae'r arolygydd o'r farn ei fod yn angenrheidiol.
(2) Os yw'n ofynnol i berson wneud unrhyw beth i arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) rhaid iddo, oni fydd ganddo achos rhesymol, wneud hynny'n ddi-oed.
(3) At ddibenion yr erthygl hon ystyr arolygydd yw unrhyw berson a gymeradwywyd yn arolygydd o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Arolygiadau
6 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru arolygu pob safle cynhyrchu cyn eu cymeradwyo'n gompartment.
(2) Cyn gynted ag y bydd safleoedd cynhyrchu wedi cael eu cymeradwyo'n gompartmentau rhaid i Weinidogion Cymru ailarolygu'r safleoedd hynny ar ôl bylchau amser a benderfynwyd drwy asesiad o risg sy'n gysylltiedig â phob compartment.
(3) Pan fyddant yn arolygu'r safleoedd cynhyrchu caiff Gweinidogion Cymru hefyd arolygu safleoedd gweinyddol sy'n dal cofnodion sy'n berthnasol i gymeradwyo'r safleoedd cynhyrchu hyn yn gompartmentau.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2010