
2010 Rhif 1761 (Cy.166)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College (Diddymu) 2010
Gwnaed 6 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym 1 Awst 2010

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation) wedi cydsynio â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 1 Awst 2010.
Diddymu a Throsglwyddo
2 
Ar 1 Awst 2010 fe ddiddymir Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College a throsglwyddir ei eiddo, ei hawliau a'i rwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation), sef corff corfforaethol sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
Trosglwyddo Staff
3 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College yn union cyn 1 Awst 2010 fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno'n gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogid felly;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2010;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llysfasi College; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Deeside College Further Education Corporation).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2010