
2010 Rhif 1724 (Cy.165)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) (Dirymu) 2010
Gwnaed 30 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym 25 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13, 56(1), 60 a 61(5) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) (Dirymu) 2010 a deuant i rym ar 25 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Dirymir Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
30 Mehefin 2010