
2010 Rhif 1704 (Cy.164)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010
Gwnaed 26 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mehefin 2010
Yn dod i rym 1 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Cymhwyso
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2010/2011.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i'r ymadrodd “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
 ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir oddi wrth Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2010/2011 o dan Reoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998;
 ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2010/2011;
 ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst;
 ystyr “Blwyddyn Academaidd 2010/2011” (“Academic Year 2010/2011”) yw blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008;
 ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw'r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi cael ei dderbyn naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag y bernir iddo gael ei dderbyn gyntaf (yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998);
 mae i'r ymadrodd “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;
 mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo'u swyddogaethau o dan adran 23 o Ddeddf 1998 iddo neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau o dan adran 9 o Ddeddf 2008 iddo; ac
 mae i'r ymadrodd “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.
Y cymhwyster ar gyfer dileu
4 
Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o'r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu yn yr amgylchiadau a geir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).
Yr Amgylchiadau
5 
Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw–
(1) bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a
(2) bod Gweinidogion Cymru o'r farn, o ran y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu—
(a) nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998; ac
(b) nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o'r fath o dan unrhyw gytundeb neu Reoliadau o'r fath.
Y Swm Penodedig
6 
Y Swm Penodedig ar gyfer dileu y mae rheoliad 4 yn cyfeirio ato yw'r lleiaf o'r canlynol—
(1) £1,500;
(2) yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.
Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw'r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw'n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, neu gosbau, costau, treuliau neu ffioedd a dynnwyd mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o'r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw'r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw'n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, neu gosbau, costau, treuliau neu ffioedd a dynnwyd mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o'r fath.
(3) At ddibenion cyfrifo'r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â Rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998.
Dileu
8 
Yn yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu'r Swm Penodedig gydag effaith o'r Dyddiad Ad-dalu.
9 
Os oes unrhyw un neu ragor o'r Amgylchiadau yn rheoliad 5(2) heb ei fodloni neu eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu'r Swm Penodedig gydag effaith yn cychwyn ar y dyddiad y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni yn eu barn hwy (“y Dyddiad Bodloni”).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Mehefin 2010