
2010 Rhif 1701 (Cy.162)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010
Gwnaed 24 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2010
Yn dod i rym 1 Medi 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 58(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru
(3) Yn y Rheoliadau hyn—ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Swyddogaethau cymorth i deuluoedd
2 
Mae'r swyddogaethau a nodir yn yr Atodlen yn swyddogaethau cymorth i deuluoedd at ddibenion Rhan 3 o Fesur 2010.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2010
ATODLEN 1

Tabl 1
Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (fel y bo'n gymwys drwy weithrediad a.28A o'r Ddeddf honno) (Darparu Gwasanaethau Lles) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) i blant sydd mewn angen (“in need”) at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac i'w teuluoedd, gan gynnwys cyflawni unrhyw asesiadau at y dibenion hynny.
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) 
a.17 ac Atodlen 2, rhan 1 o Ddeddf Plant 1989 (Darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill) 
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) 
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) 

Tabl 2
Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a'r cyfarwyddiadau a wnaed odani (Trefniadau lles) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) neu gyfleusterau i hybu lles personau dros 18 oed sy'n gymwys i gael gwasanaethau o dan yr adrannau hynny am eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, yn ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, yn rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam– drin neu am eu bod yn rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny.
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Darparu Gwasanaethau Lles) 
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) 
a.6 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Asesiadau: personau â chyfrifoldeb rhiant) 
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol)

Tabl 3
Swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas â phlant
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu â thrin plant, sydd mewn angen at ddibenion a.17 o Ddeddf Plant 1989 ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau neu gyfleusterau.
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) 
a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) 
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) 
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu-gwasanaethau penodol) 
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau gyda chyrff eraill) 
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) 

Tabl 4
Swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas ag oedolion
Y Swyddogaeth Rhychwant
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd ar gyfer personau, neu â thrin personau, sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, neu sy'n ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, sy'n rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu'n rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau, cyfleusterau neu driniaeth.
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) 
a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) 
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) 
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol) 
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau â chyrff eraill) 
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) 