
2010 Rhif 1690 (Cy.159)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010
Gwnaed 24 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2010
Yn dod i rym 1 Medi 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd gan adrannau 60(1) a 62(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu ar gofrestr gyffelyb o weithwyr cymdeithasol a gynhelir yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
 ystyr “gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol” (“consultant social worker”) yw gweithiwr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad ar ôl cymhwyso ac yn meddu ar y cyfryw sgiliau, cymwysterau a chymwyseddau ag a bennir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn canllawiau a ddyroddir o dan adran 65 o Fesur 2010
 ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
 ystyr “nyrs” (“nurse”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys o'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
 ystyr “tîm” (“team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan Ran 3 o Fesur 2010;
 ystyr “ymwelydd iechyd” (“health visitor”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol o'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â'i gofnod yn y rhan honno o'r gofrestr yn cofnodi cymhwysedd mewn gwasanaethau ymwelwyr iechyd.
Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd
2 

(1) Rhaid i dîm gynnwys o leiaf bum person y mae pob un ohonynt yn dod o un o'r categorïau proffesiynol a ganlyn—
(a) gweithiwr cymdeithasol;
(b) nyrs; neu
(c) ymwelydd iechyd.
(2) Rhaid i dîm gynnwys o leiaf un person o bob un o'r categorïau yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1).
(3) Rhaid i un aelod o'r tîm fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol.
3 
Rhaid i dîm gynnwys staff sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad addas, gan ystyried—
(a) y categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at y tîm;
(b) yr angen sydd ar y staff proffesiynol am gymorth gweinyddol; ac
(c) unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 65 o Fesur 2010.
Byrddau Integredig Cymorth i Deuluoedd
4 
Er mwyn cyrraedd yr amcanion yn adran 62(1) o Fesur 2010 (Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd) rhaid i fwrdd integredig cymorth i deuluoedd—
(a) cael ac ystyried adroddiadau rheolaidd oddi wrth y person sy'n rheoli'r tîm gan gynnwys gwybodaeth am lefelau gweithgarwch gwasanaethu a chanlyniadau;
(b) ceisio datrys problemau o ran cyd-drefnu gwasanaethau a ddarperir gan y tîm a gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol;
(c) sicrhau bod gan y tîm weithdrefnau o ran
(i) amddiffyn plant;
(ii) amddiffyn oedolion;
(ch) sefydlu gweithdrefn i ddatrys anghydfod rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol am y trefniadau ar gyfer y tîm;
(d) sicrhau bod trefniadau digonol i oruchwylio pob aelod o staff proffesiynol ac i ofalu am eu datblygiad proffesiynol;
(dd) cael adroddiadau ar incwm a gwariant y tîm a hysbysu'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol am unrhyw broblemau ariannol neu broblemau yn ymwneud ag adnoddau eraill a fyddai'n debygol o effeithio ar allu y tîm i gyflawni ei amcanion.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2010