
2010 Rhif 1547 (Cy.145) (C.84)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010
Gwnaed 8 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mehefin 2010
Yn dod i rym 26 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4), 167(2) a 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984; a
(b) ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.
Y diwrnod penodedig
2 
26 Gorffennaf 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf 2008—
(a) adran 129, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 130(1), ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 13 i 15 a 76 o Ddeddf 1984 yn peidio â chael effaith;
(c) adran 130(2);
(ch) adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau o Ran 3 o Atodlen 15 a gychwynnir gan baragraff (dd);
(d) Atodlen 11; ac
(dd) Rhan 3 o Atodlen 15 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 13 i 15 a 76 o Ddeddf 1984.
Darpariaethau trosiannol ac arbed
3 
Mae'r darpariaethau trosiannol ac arbed a bennir yn Atodlen 1 yn cael effaith.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010
ATODLEN 1
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
Erthygl 3
Dehongli
1 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “y Rheoliadau Hysbysu” (“the Notification Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010; ac
 ystyr “y Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol” (“the Local Authority Powers Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010.
Adran 9 o Ddeddf 1984
2 
Mae adran 9 o Ddeddf 1984 (llongau ar ddyfroedd mewndirol neu arfordirol) yn parhau mewn grym at ddibenion adran 13 o Ddeddf 1984 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau penodol) (er gwaethaf diddymu adran 9 gan Ddeddf 2008).
Adran 11 o Ddeddf 1984: dyletswydd ymarferwyr meddygol cofrestredig
3 

(1) Pan fo—
(a) dyletswydd ar ymarferydd meddygol cofrestredig o dan adran 11 o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd) wedi codi cyn 26 Gorffennaf 2010 ond heb ei chyflawni cyn y dyddiad hwnnw; a
(b) y ddyletswydd honno yn gysylltiedig â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),
rhaid i'r ymarferydd meddygol cofrestredig gydymffurfio â rheoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin yr ymarferydd meddygol cofrestredig fel pe bai wedi ffurfio amheuaeth o dan reoliad 2(1) o'r rheoliadau Hysbysu ar 26 Gorffennaf 2010.
Adran 11 o Ddeddf 1984: dyletswydd swyddogion priodol
4 

(1) Pan fo—
(a) swyddog priodol awdurdod lleol wedi cael tystysgrif yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd);
(b) y swyddog priodol heb gyflawni'r ddyletswydd o anfon copïau o'r dystysgrif honno at bartïon penodedig eraill o dan adran 11(3) o'r Ddeddf honno cyn 26 Gorffennaf 2010; ac
(c) y dystysgrif yn ymwneud â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),
rhaid trin y dystysgrif honno fel hysbysiad a anfonwyd o dan reoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y swyddog priodol fel pe bai wedi cael yr hysbysiad ar 26 Gorffennaf 2010.
Adran 20 o Ddeddf 1984
5 
Pan fo—
(a) swyddog priodol awdurdod lleol wedi gwneud cais o dan adran 20 o Ddeddf 1984 (atal gwaith er mwyn rhwystro clefyd rhag lledaenu); a
(b) pan na chydymffurfiwyd â'r cais hwnnw cyn 26 Gorffennaf 2010 a'r cais heb ddod i ben nac wedi ei dynnu'n ôl,rhaid trin y cais fe cais a wnaed o dan reoliad 8 o'r rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (ceisiadau am gydweithredu at ddibenion diogelu iechyd).
Adran 21 o Ddeddf 1984
6 
Pan fo—
(a) hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson sydd â gofal am blentyn, o dan adran 21 o Ddeddf 1984 (allgáu plentyn o'r ysgol os yw'n dueddol o drosglwyddo clefyd hysbysadwy); a
(b) tystysgrif hed ei dyroddi gan swyddog priodol cyn 26 Gorffennaf 2010 mewn perthynas â'r hysbysiad hwnnw,bydd adran 21 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
Adran 22 o Ddeddf 1984
7 
Mewn achos—
(a) pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi gofyn i bennaeth ysgol ddarparu rhestr o enwau a chyfeiriadau disgyblion o dan adran 22 o Ddeddf 1984 (rhestr o ddisgyblion dydd mewn ysgol sydd ag achos o glefyd hysbysadwy);
(b) pan nad yw'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r cais wedi dod i ben; ac
(c) pan na chydymffurfiwyd â'r cais cyn 26 Gorffennaf 2010,rhaid trin y cais fel cais a wnaed o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol).
Adran 31 o Ddeddf 1984
8 
Pan fo—
(a) yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad i feddiannydd o dan adran 31 o Ddeddf 1984 (diheintio mangre); a
(b) y camau a bennwyd gan yr awdurdod lleol yn ei hysbysiad heb eu cyflawni gan yr awdurdod lleol na'r meddiannydd cyn 26 Gorffennaf 2010,bydd adran 31 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
Adrannau 35 i 38 a 40 o Ddeddf 1984
9 
Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan ynad heddwch o dan un neu ragor o adrannau 35 i 38 a 40 o Ddeddf 1984 (sy'n ymwneud â gorchmynion ynadon heddwch)—
(a) rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45G (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â phersonau) ac, os cyfunwyd y gorchymyn â gwarant, adran 45K (gorchmynion Rhan 2A: atodol) o Ddeddf 1984;
(b) bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010, neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn; ac
(c) ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adrannau 45G neu 45K o Ddeddf 1984, yn ôl fel y digwydd.
Adran 42 o Ddeddf 1984
10 
Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan lys ynadon o dan adran 42 o Ddeddf 1984 (cau llety cyffredinol oherwydd clefyd hysbysadwy)—
(a) rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45I o Ddeddf 1984 (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â mangre);
(b) bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010 (neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn); ac
(c) ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adran 45I o Ddeddf 1984.
Adran 43 o Ddeddf 1984
11 
Pan fo—
(a) swyddog priodol awdurdod lleol neu ymarferydd meddygol cofrestredig wedi ardystio, o dan adran 43 o Ddeddf 1984 (person â chlefyd hysbysadwy, a fu farw mewn ysbyty), na ddylid symud corff marw o ysbyty ac eithrio at y diben o'i symud yn uniongyrchol i gorffdy neu i'w gladdu neu'i amlosgi yn ddi-oed; a
(b) y corff sy'n destun yn ardystiad yn parhau yn yr ysbyty hwnnw yn union cyn 26 Gorffennaf 2010,bydd adran 43 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr ardystiad a'r corff (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
Adran 74 o Ddeddf 1984
12 
Bydd unrhyw ddiffiniad yn adran 74 o Ddeddf 1984  (dehongli) a ddefnyddir yn—
(a) adrannau 13 i 15 neu 76 o Ddeddf 1984; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 sy'n parhau mewn grym at ddibenion penodedig yn rhinwedd paragraffau 2 i 11 o'r Atodlen hon,yn parhau mewn grym at ddibenion dehongli'r adrannau a'r darpariaethau hynny (er gwaethaf eu diddymu, a diddymu adran 74 o Ddeddf 1984, gan Ddeddf 2008).