
2010 Rhif 1546 (Cy.144)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Gwnaed 8 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mehefin 2010
Yn dod i rym
at ddiben pob rheoliad ac eithrio rheoliad 4 26 Gorffennaf 2010
at ddiben rheoliad 4 1 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 13, 45C(1), (2) a (3)(a), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o'r farn nad yw'r Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o'r Ddeddf honno ac sy'n gosod, neu'n galluogi gosod, cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sydd, neu a fyddai, yn effeithio'n arwyddocaol ar hawliau person.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010, a deuant i rym–
(a) at ddibenion pob rheoliad ac eithrio rheoliad 4, ar 26 Gorffennaf 2010; a
(b) at ddibenion rheoliad 4, ar 1 Hydref 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion
2 

(1) Rhaid i ymarferydd meddygol cofrestredig (R) hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol pan fo sail resymol gan R dros amau, yn achos claf (P) a wasanaethir gan R—
(a) bod P yn dioddef o glefyd hysbysadwy;
(b) bod gan P haint sydd, neu a allai, ym marn R, beri niwed arwyddocaol i iechyd dynol; neu
(c) bod P wedi ei halogi mewn modd sydd, neu a allai, ym marn R, beri niwed arwyddocaol i iechyd dynol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i R—
(a) enw P, ei ddyddiad geni a'i ryw;
(b) cyfeiriad cartref P, gan gynnwys y cod post;
(c) preswylfa bresennol P (os yw'n wahanol i'w gyfeiriad gartref);
(ch) rhif teleffon P;
(d) rhif GIG P;
(dd) galwedigaeth P;
(e) enw, cyfeiriad a chod post gweithle P neu'r man lle y'i haddysgir (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);
(f) hanes perthnasol teithiau tramor P;
(ff) ethnigrwydd P;
(g) manylion cyswllt rhiant P (os plentyn yw P);
(ng) y clefyd neu'r haint sydd gan P, neu'r amheuir sydd ganddo, neu natur ei halogiad, neu'r halogiad a amheuir;
(h) dyddiad cychwyn symptomau P;
(i) dyddiad y diagnosis gan R; ac
(j) enw, cyfeiriad a rhif teleffon R.
(3) Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen, o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan fo R yn ffurfio amheuaeth o dan baragraff (1).
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw R o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i R roi sylw i—
(a) natur y clefyd, haint neu halogiad a amheuir;
(b) rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad hwnnw;
(c) y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad hwnnw; ac
(ch) amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw R yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes ynglŷn â P a'r clefyd, haint neu halogiad a amheuir, gan ymarferydd meddygol cofrestredig arall yn unol â'r rheoliad hwn.
(7) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol yr oedd R yn gwasanaethu P yn ei ardal, ar yr achlysur pan ffurfiodd amheuaeth o dan baragraff (1);
 ystyr “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yw clefyd neu syndrom a restrir yn Atodlen 1;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 mlwydd oed; ac
 y mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf Addysg 1996.
Dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn personau meirw
3 

(1) Rhaid i ymarferydd meddygol cofrestredig (R) hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol pan fo sail resymol gan R dros amau y bu farw person (P) a wasanaethid gan R, tra oedd P—
(a) wedi ei heintio â chlefyd hysbysadwy;
(b) wedi ei heintio â chlefyd sydd, ym marn R, yn peri, neu y gallai beri, neu a oedd yn peri, neu y gallai fod wedi peri (tra oedd P yn fyw), niwed arwyddocaol i iechyd dynol; neu
(c) wedi ei halogi mewn modd sydd, ym marn R, yn peri, neu y gallai beri, neu a oedd yn peri, neu y gallai fod wedi peri (tra oedd P yn fyw), niwed arwyddocaol i iechyd dynol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i R—
(a) enw P, ei ddyddiad geni a'i ryw;
(b) dyddiad marwolaeth P;
(c) cyfeiriad cartref P, gan gynnwys y cod post;
(ch) preswylfa P ar yr adeg y bu farw (os yw'n wahanol i gyfeiriad ei gartref);
(d) rhif GIG P;
(dd) galwedigaeth P ar yr adeg y bu farw (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);
(e) enw, cyfeiriad a chod post gweithle P neu'r man lle y'i haddysgid ar yr adeg y bu farw (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);
(f) hanes perthnasol teithiau tramor P;
(ff) ethnigrwydd P;
(g) y clefyd neu'r haint a oedd gan P, neu'r amheuir a oedd ganddo, neu natur ei halogiad, neu'r halogiad a amheuir;
(ng) dyddiad cychwyn symptomau P;
(h) dyddiad y diagnosis gan R; ac
(i) enw, cyfeiriad a rhif teleffon R.
(3) Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen, o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan fo R yn ffurfio'i amheuaeth o dan baragraff (1).
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw R o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i R roi sylw i—
(a) natur y clefyd, haint neu halogiad a amheuir;
(b) rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad hwnnw;
(c) y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad hwnnw; ac
(ch) amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw R yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes ynglŷn â P a'r clefyd, haint neu halogiad a amheuir, gan ymarferydd meddygol cofrestredig arall yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 2(1).
(7) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol yr oedd R yn gwasanaethu P yn ei ardal, ar yr achlysur pan ffurfiodd amheuaeth o dan baragraff (1); ac
 y mae i “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 2.
Dyletswydd i hysbysu ynghylch cyfryngau achosol a ganfyddir mewn samplau dynol
4 

(1) Rhaid i weithredwr labordy diagnostig hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol yn unol â'r rheoliad hwn pan fo labordy diagnostig yn canfod cyfrwng achosol mewn sampl ddynol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i weithredwr y labordy diagnostig—
(a) enw a chyfeiriad y labordy diagnostig;
(b) manylion y cyfrwng achosol a ganfuwyd;
(c) dyddiad y sampl;
(ch) natur y sampl;
(d) enw'r person (P) y cymerwyd y sampl ohono;
(dd) dyddiad geni a rhyw P;
(e) cyfeiriad cartref presennol P, gan gynnwys y cod post;
(f) preswylfa bresennol P (os yw'n wahanol i gyfeiriad ei gartref);
(ff) ethnigrwydd P;
(g) rhif GIG P; ac
(ng) enw, cyfeiriad a sefydliad y person a ofynnodd am gynnal y prawf a ganfu'r cyfrwng achosol.
(3) Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y canfyddir y cyfrwng achosol.
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw gweithredwr y labordy diagnostig o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i weithredwr y labordy diagnostig roi sylw i–
(a) natur y cyfrwng achosol;
(b) natur y clefyd a achosir gan y cyfrwng achosol;
(c) rhwyddineb lledaenu'r cyfrwng achosol;
(ch) y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y cyfrwng achosol; a
(d) os ydynt yn hysbys, amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw gweithredwr y labordy diagnostig yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes yn unol â'r rheoliad hwn gan weithredwr labordy diagnostig arall, ynghylch canfod yr un cyfrwng achosol mewn sampl a gymerwyd o'r un person.
(7) At ddibenion paragraff (1), mae labordy diagnostig yn canfod cyfrwng achosol—
(a) pan fo'r labordy diagnostig hwnnw yn canfod y cyfrwng achosol; neu
(b) pan ganfyddir y cyfrwng achosol gan labordy arall, o dan drefniant a wnaed gyda'r labordy diagnostig hwnnw.
(8) Pan fo paragraff (7)(b) yn gymwys, y diwrnod pan ganfyddir y cyfrwng achosol at ddibenion paragraff (3), yw'r diwrnod pan ddaw'r labordy diagnostig yn ymwybodol o ganfyddiad y labordy arall.
(9) Mae gweithredwr labordy diagnostig sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn, heb esgus rhesymol, yn cyflawni tramgwydd.
(10) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(11) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol y lleolir yn ei ardal sefydliad y person a ofynnodd am gynnal y prawf a ganfu'r cyfrwng achosol;
 ystyr “cyfarwyddwr labordy diagnostig” (“director of a diagnostic laboratory”) yw—
(a) y microbiolegydd clinigol, patholegydd ymgynghorol neu ymarferydd meddygol cofrestredig arall neu berson arall sydd â gofal o labordy diagnostig; neu
(b) unrhyw berson arall sy'n gweithio yn y labordy diagnostig ac y dirprwywyd iddo'r swyddogaeth o wneud hysbysiad o dan y rheoliad hwn, gan y person a grybwyllir yn is-baragraff (a);
 ystyr “cyfrwng achosol” (“causative agent”) yw—
(a) cyfrwng achosol a restrir yn Atodlen 2, neu
(b) tystiolaeth o haint a achoswyd gan gyfrwng o'r fath;
 ystyr “gweithredwr labordy diagnostig” (“operator of a diagnostic laboratory”) yw'r corff corfforaethol sy'n gweithredu'r labordy diagnostig, neu os nad oes corff o'r fath, cyfarwyddwr y labordy diagnostig; ac
 ystyr “labordy diagnostig” (“diagnostic laboratory”) yw sefydliad (neu gyfleuster o fewn sefydliad) sydd â chyfarpar a sylweddau adweithiol i gyflawni profion diagnostig ar gyfer heintiau dynol.
Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i'r swyddog priodol
5 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad wedi ei roi gan weithredwr labordy diagnostig i'r swyddog priodol o dan reoliad 4.
(2) Caiff y swyddog priodol ofyn am i'r person (R), a ofynnodd am gynnal y prawf labordy a ganfu'r cyfrwng achosol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ddarparu i'r swyddog priodol yr wybodaeth a restrir yn rheoliad 4(2), i'r graddau na chynhwyswyd yr wybodaeth honno yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i R ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (2) i'r graddau y mae'n hysbys i R.
(4) Rhaid darparu'r wybodaeth mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y gwneir y cais.
(5) Heb ragfarnu paragraff (4), os yw'r swyddog priodol o'r farn bod yr achos yn achos brys, ac yn hysbysu R o hynny wrth wneud y cais, rhaid darparu'r wybodaeth ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(6) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i'r swyddog priodol roi sylw i—
(a) natur y cyfrwng achosol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b) natur y clefyd a achosir gan y cyfrwng achosol;
(c) rhwyddineb lledaenu'r cyfrwng achosol;
(ch) y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y cyfrwng achosol; a
(d) os ydynt yn hysbys, amgylchiadau'r person y cymerwyd y sampl ohono (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “cyfrwng achosol” (“causative agent”) yr un ystyr ag sydd iddo yn rheoliad 4(11).
Dyletswydd ar y swyddog priodol i ddatgelu hysbysiadau i eraill
6 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r swyddog priodol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 2, 3 neu 4.
(2) Rhaid i'r swyddog priodol ddatgelu'r ffaith iddo gael yr hysbysiad yn ogystal â chynnwys yr hysbysiad i'r canlynol—
(a) Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(b) swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae P fel arfer yn preswylio yn ei ardal (os yw'n wahanol); ac
(c) swyddog priodol yr awdurdod iechyd porthladd neu awdurdod lleol, y lleolir neu y lleolwyd yn ei ranbarth neu'i ardal unrhyw long, hofrenfad, awyren neu drên rhyngwladol y daeth P oddi arni neu oddi arno (os yw hynny'n hysbys i'r swyddog priodol sy'n datgelu ac os yw'r swyddog hwnnw'n tybio bod datgelu felly yn briodol).
(3) Rhaid gwneud y datgeliad mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y mae'r swyddog priodol yn cael yr hysbysiad.
(4) Heb ragfarnu paragraff (3), os yw'r swyddog priodol sy'n datgelu o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid gwneud datgeliad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i'r swyddog priodol sy'n datgelu roi sylw i—
(a) natur y clefyd, haint neu halogiad neu'r amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad y cyfeirir ato yn yr hysbysiad;
(b) rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad;
(c) y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad; ac
(ch) os ydynt yn hysbys, amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).
Cyfathrebiadau electronig
7 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—
(a) hysbysiadau a ddarperir o dan reoliadau 2(1), 3(1) a 4(1);
(b) gwybodaeth a ddarperir o dan reoliad 5(3);
(c) datgeliadau a wneir o dan reoliad 6(2);
(ch) rhestrau a ddarperir o dan reoliad 3 (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010; a
(d) adroddiadau a ddarperir o dan reoliadau 10(1) (dyletswydd i roi adroddiad am geisiadau Rhan 2A) ac 11(1) (dyletswydd i roi adroddiad am amrywiadau neu ddirymiadau o orchmynion Rhan 2A) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010.
(2) Ceir defnyddio cyfathrebu electronig i roi hysbysiadau, gwybodaeth, datgeliadau, rhestrau ac adroddiadau y mae'n ofynnol eu rhoi mewn ysgrifen—
(a) os yw'r derbynnydd wedi cydsynio mewn ysgrifen i gael yr hysbysiad, gwybodaeth, datgeliad, rhestr neu adroddiad (yn ôl fel y digwydd) mewn cyfathrebiad electronig; a
(b) os anfonir y cyfathrebiad i'r rhif neu'r cyfeiriad a bennwyd gan y derbynnydd wrth roi'r cydsyniad hwnnw.
Dirymiadau
8 
Dirymir y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 3.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010
ATODLEN 1
Clefydau a Syndromau Hysbysadwy
Rheoliadau 2(7)


 Anthracs
 Botwliaeth
 Brwselosis
 Clefyd streptococol grŵp A mewnwthiol a'r dwymyn goch
 Clefyd y llengfilwyr
 Clwy'r pennau
 Colera
 Difftheria
 Dolur rhydd gwaedlyd heintus
 Y dwymyn felen
 Enceffalitis (aciwt)
 Gwahanglwyf
 Y frech goch
 Y frech wen
 Gwenwyn bwyd
 Y gynddaredd
 Hepatitis heintus (aciwt)
 Llid yr ymennydd (aciwt)
 Malaria
 Y pas
 Y pla
 Poliomyelitis (aciwt)
 Rwbela
 Septisemia meningococol
 Syndrom anadlu aciwt difrifol (SARS)
 Syndrom wremig hemolytig (HUS)
 Tetanws
 Twbercwlosis
 Twymyn enterig (twymyn tyffoid neu paratyffoid)
 Twymyn gwaedlifol firysol (VHF)
 Tyffws

ATODLEN 2
Cyfryngau Achosol
Rheoliadau 4(11) a 5(7)


 Bacillus anthracis
 Bacillus cereus (os yw'n gysylltiedig â gwenwyn bwyd, yn unig)
 Bordetella pertussis
 Borrelia spp
 Brucella spp
 Burkholderia mallei
 Burkholderia pseudomallei
 Campylobacter spp
 Chlamydophila psittaci
 Clostridium botulinum
 Clostridium perfringens (os yw'n gysylltiedig â gwenwyn bwyd, yn unig)
 Clostridium tetani
 Coronafirws y syndrom anadlu aciwt difrifol (SARS)
 Corynebacterium diphtheriae
 Corynebacterium ulcerans
 Coxiella burnetii
 Cryptosporidium spp
 Cymhlygyn Mycobacterium tuberculosis
 Entamoeba histolytica
 Escherichia coli vero-cytotocsigenig (gan gynnwys E.coli O157)
 Firws Chikungunya
 Firws clefyd Coedwig Kyasanur
 Firws clwy'r pennau
 Firws Dengue
 Firws Ebola
 Firws Gorllewin Nîl
 Firws Guanarito
 Firws Hanta
 Firws Junin
 Firws Lassa
 Firws Machupo
 Firws Marburg
 Firws polio (mathau gwyllt neu frechiadol)
 Firws Rwbela
 Firws Sabia
 Firws twymyn waedlifol Crimea-Congo
 Firws twymyn waedlifol Omsk
 Firws twymyn y Dyffryn Hollt
 Firws varicella zoster
 Firws variola
 Firws y dwymyn felen
 Firws y ffliw
 Firws y frech goch
 Firws y gynddaredd (y gynddaredd glasurol) a lysafirysau cynddaredd-berthynol
 Firysau Hepatitis A, B, C, delta, ac E
 Francisella tularensis
 Giardia lamblia
 Haemophilus influenzae (mewnwthiol)
 Legionella spp
 Leptospira interrogans
 Listeria monocytogenes
 Neisseria meningitidis
 Plasmodium falciparum, vivax, ovale, malariae, knowlesi
 Rickettsia spp
 Salmonella spp
 Shigella spp
 Streptococcus pneumoniae (mewnwthiol)
 Streptococcus pyogenes (mewnwthiol)
 Vibrio cholerae
 Yersinia pestis

ATODLEN 3
Dirymiadau
Rheoliad 8
1 
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Atal Twbercwlosis) 1925.
2 
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Clefydau Heintus) 1988.