
2010 Rhif 1544 (Cy.142)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010
Gwnaed 8 Mehefin 2010
Yn dod i rym 26 Gorffennaf 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 45C(1), (2) a (3)(b), 45F(2)(a), 45G(7), 45L(4), 45M(3), (6) a (7), 45N(1) a (2)(b) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Clefydau) 1984 ac adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Yn unol ag adran 152(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r cynrychiolwyr hynny o lywodraeth leol y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy mewn cysylltiad â rheoliad 7.

Cafodd drafft o'r offeryn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 45Q(2), (3) a (4) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Clefydau) 1984 ac adran 150(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cais Rhan 2A” (“Part 2A application”) yw cais a wnaed i ynad heddwch am orchymyn o dan Rhan 2A o'r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Clefydau) 1984;
 ystyr “gorchymyn Rhan 2A” (“Part 2A order”) yw gorchymyn a wnaed gan ynad heddwch o dan Rhan 2A o'r Ddeddf;
 ystyr “person sydd â chyfrifoldeb rhiant” (“a person with parental responsibility”) yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant o fewn ystyr Deddf Plant 1989; ac
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 mlwydd oed.
Dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi hysbysiad o geisiadau Rhan 2A
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud cais Rhan 2A.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol wneud ymholiadau rhesymol o ran bodolaeth a lleoliad personau sy'n dod o fewn paragraffau (4) i (7) (fel y bo'n gymwys).
(3) Ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o'r cais i'r personau a bennir ym mharagraffau (4) i (7) (fel y bo'n gymwys) pan fo'r awdurdod lleol yn gwybod pwy ydynt a bod modd iddo gysylltu â hwy.
(4) Mewn perthynas â gwneud cais am orchymyn o dan adran 45G(2) neu (4) o'r Ddeddf (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â phersonau), y personau a bennir yw—
(a) y person sy'n destun y cais (P);
(b)  person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, os yw P yn blentyn; ac
(c) y sawl sy'n penderfynu dros P (os oes unrhyw un).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ynglŷn â chais am orchymyn o dan adran 45H(2) neu (4) o'r Ddeddf (pŵer i orchymyn mesurau iechyd o ran pethau), y personau penodedig yw—
(a) perchennog y peth; a
(b) y person sydd â gwarchodaeth am y peth neu reolaeth arno.
(6) O ran cais am orchymyn o dan adran 45H(2) o'r Ddeddf ynglŷn â chorff marw neu weddillion dynol, y person penodedig yw câr agosaf yr ymadawedig (neu os oes ceraint agosaf gan yr ymadawedig, unrhyw un o'r personau hynny).
(7) O ran cais am orchymyn o dan adran 45I(2) neu (4) (pŵer i orchymyn mesurau iechyd o ran mangreoedd), y personau penodedig yw—
(a) perchennog y fangre; a
(b) meddiannydd y fangre, os oes un.
(8) Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan baragraff (3) os yw P, yn nhyb resymol yr awdurdod lleol, yn debygol o ddiengyd neu fel arall yn cymryd camau i danseilio'r gorchymyn y gwnaed cais amdano.
(9) Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan baragraff (3) i berson a bennir ym mharagraff (4)(b) os oes amgylchiadau eithriadol yn bodoli sy'n golygu na fyddai hysbysu person o'r fath er budd pennaf P.
(10) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “câr agosaf” (“next of kin”) yw'r person y mae'r rhestr ganlynol yn ei roi yn y rheng uchaf (ond os bydd dau berson neu fwy yn gyfartal eu rheng yna mae pob un o'r personau hynny i'w trin fel y ceraint agosaf)—
(a) person sydd â chyfrifoldeb rhiant am yr ymadawedig (P);
(b) gŵr, gwraig neu bartner sifil P;
(c) person sydd wedi bod yn byw gyda P hyd at adeg marwolaeth P yn ŵr, gwraig neu bartner sifil i P;
(ch) plentyn i P os yw'n 18 oed neu'n hŵn;
(d) rhiant i P;
(dd) brawd neu chwaer i P os yw'n 18 oed neu'n hŵn; ac
 ystyr “y sawl sy'n penderfynu dros P” (“P’s decision-maker”) yw rhoddai atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol P o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu ddirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod mewn perthynas â P, pan fo penderfyniadau mewn cysylltiad â cheisiadau neu orchmynion Rhan 2A o fewn cwmpas awdurdod y person hwnnw.
Tystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer cais Rhan 2A o ran personau
4 

(1) Ni all ynad heddwch fod yn fodlon bod y meini prawf yn adran 45G(1) neu (3) o'r Ddeddf (pŵer i orchymyn mesurau iechyd o ran personau) wedi cael eu cyflawni onid yw'r dystiolaeth a restrir ym mharagraff (2) ar gael i'r ynad.
(2) Y dystiolaeth honno yw—
(a) adroddiad sy'n rhoi manylion (i'r graddau y gwyddys amdanynt ac i'r graddau y maent yn berthnasol), neu sy'n rhoi rhesymau dros adael allan fanylion am y canlynol—
(i) arwyddion a symptomau'r haint neu'r halogiad yn y person (P) sy'n destun y cais,
(ii) diagnosis P,
(iii) canlyniad profion clinigol neu brofion labordy, a
(iv) cysylltiadau diweddar P â ffynhonnell neu ffynonellau'r haint neu'r halogiad neu ei agosrwydd iddi neu iddynt;
(b) crynodeb o nodweddion ac effeithiau'r haint neu'r halogiad sydd gan neu a all fod gan P sy'n cynnwys esboniad o'r canlynol—
(i) drwy ba fecanwaith y mae'r haint neu'r halogiad yn ymledu,
(ii) pa mor hawdd y mae'r haint neu'r halogiad yn ymledu ymysg bodau dynol, a
(iii) effaith yr haint neu'r halogiad ar iechyd dynol (drwy gyfeirio at boen, anabledd a thebygolrwydd marwolaeth);
(c) o ran ceisiadau am orchymyn o dan adran 45G(2), asesiad o'r risg i iechyd dynol y mae P yn ei chyflwyno, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw waith neu anwaith, neu unrhyw waith neu anwaith a ragwelir, gan P sy'n effeithio ar y risg honno;
(ch) o ran ceisiadau am orchymyn o dan adran 45G(4), asesiad o'r risg i iechyd dynol y mae'r parti perthnasol yn ei chyflwyno, gan gynnwys unrhyw waith neu anwaith, neu unrhyw waith neu anwaith a ragwelir, gan y parti perthnasol sy'n effeithio ar y risg honno;
(d) o ran ceisiadau am orchymyn o dan adran 45G(2), asesiad o'r opsiynau sydd ar gael i ymdrin â'r risg honno y mae P yn ei chyflwyno; ac
(dd) o ran ceisiadau am orchymyn o dan adran 45G(4), asesiad o'r opsiynau sydd ar gael i ymdrin â'r risg honno y mae'r parti perthnasol yn ei chyflwyno.
(3) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (2)(a) gynnwys y manylion a grybwyllir yn o leiaf un o'r paragraffau (2)(a)(i) i (iv).
(4) Rhaid bod y dystiolaeth yn cael ei rhoi gan bersonau sy'n briodol gymwys i roi'r dystiolaeth.
(5) Caniateir i'r dystiolaeth gael ei rhoi ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Y cyfnod y caiff gorchymyn Rhan 2A ynglŷn â phersonau fod mewn grym
5 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gorchmynion Rhan 2A sy'n gosod cyfyngiad neu ofyniad o dan adran 45G(2)(a) a (b) ac (e) i (k) (pŵer i orchymyn mesurau iechyd ynglŷn â phersonau) o'r Ddeddf.
(2) Rhaid i'r cyfnod y caiff y cyfyngiad neu'r gofyniad a osodir gan neu o dan y gorchymyn fod mewn grym beidio â bod yn fwy na 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y gwnaed y gorchymyn.
(3) Rhaid i unrhyw gyfnod o estyniad i gyfyngiad neu ofyniad beidio â bod yn fwy na 28 o ddiwrnodau.
(4) Pan fo gorchymyn Rhan 2A yn cael ei amrywio i osod cyfyngiad neu ofyniad newydd, rhaid i'r cyfnod y caiff y cyfyngiad neu'r gofyniad newydd hwnnw fod mewn grym beidio â bod yn fwy na 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y gorchymyn ei amrywio.
Personau yr effeithir arnynt o ran gorchmynion Rhan 2A ynglŷn â phersonau a chyrff marw neu weddillion dynol
6 

(1) Mae'r personau canlynol yn bersonau yr effeithir arnynt (yn ychwanegol at y rheini a ragnodwyd yn adran 45M o'r Ddeddf) at ddibenion gorchmynion Rhan 2A.
(2) Yn achos gorchymyn Rhan 2A o dan adran 45G o'r Ddeddf ynglŷn â pherson (P), y sawl sy'n penderfynu dros P (os oes rhywun).
(3) Yn achos gorchymyn Rhan 2A o dan adran 45H(2) o'r Ddeddf o ran corff marw neu weddillion dynol, câr agosaf yr ymadawedig.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “câr agosaf” a'r “sawl sy'n penderfynu dros P” yr ystyr a roddir iddynt yn rheoliad 3.
Pŵer yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol godi tâl mewn cysylltiad â gorchmynion Rhan 2A o ran pethau a mangreoedd
7 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi tynnu costau wrth wneud mesurau yn unol â gorchymyn Rhan 2A o dan adran 45H (mesurau iechyd o ran pethau) neu 45I (mesurau iechyd o ran mangreoedd) o'r Ddeddf.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar y canlynol—
(a) y perchennog neu'r person sydd â gwarchodaeth neu reolaeth ar y peth sydd yn destun gorchymyn o dan adran 45H o'r Ddeddf; neu
(b) perchennog neu feddiannydd y fangre sydd yn destun gorchymyn o dan adran 45I o'r Ddeddf.
(3) Swm y tâl a godir—
(a) rhaid iddo beidio â bod yn fwy na'r costau gwirioneddol (gan gynnwys costau staff) a dynnwyd gan yr awdurdod lleol wrth wneud mesurau o ran y peth neu'r fangre yn unol â'r gorchymyn; a
(b) rhaid iddo fod yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
(4) Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl mewn cysylltiad â gorchmynion o dan adran 45H o'r Ddeddf sy'n ymwneud â chorff marw neu weddillion dynol.
Dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth o ran gorchmynion Rhan 2A ynglŷn â phersonau
8 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi gwneud cais Rhan 2A a bod ynad heddwch wedi gwneud gorchymyn Rhan 2A o dan adran 45G (mesurau iechyd o ran personau) ynglŷn â'r cais hwnnw.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y person sydd yn destun y gorchymyn (P) yn deall—
(a) effaith y gorchymyn, y rheswm dros ei wneud, o dan ba bŵer y cafodd ei wneud a hawl P i wneud cais am amrywiad neu ddirymiad o'r gorchymyn; a
(b) y gwasanaethau cymorth perthnasol sydd ar gael i P (a sut i gael mynediad atynt).
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd y camau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gorchymyn gael ei wneud.
(4) Pan fo P o dan 18 oed, y ddyletswydd o dan baragraff (2) yw sicrhau bod person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P yn deall y materion a osodir yn is-baragraffau (a) a (b) o'r paragraff hwnnw.
Dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi sylw i faterion lles yn dilyn gorchymyn Rhan 2A ynglŷn â phersonau
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (P)—
(a) yn cael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad addas arall yn unol â gorchymyn Rhan 2A o dan adran 45G(2)(c) (mesurau iechyd o ran personau); neu
(b) yn cael ei ynysu neu dan gwarantîn yn unol â gorchymyn Rhan 2A o dan adran 45G(2)(d) (mesurau iechyd o ran personau).
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol a wnaeth y cais am y gorchymyn Rhan 2A roi sylw i effaith y gorchymyn ar les P ac ar ddibynyddion P, os oes rhai, tra pery'r gorchymyn.
Dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi adroddiad am geisiadau Rhan 2A i Weinidogion Cymru
10 

(1) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru bob tro y bydd yn gwneud cais Rhan 2A.
(2) Rhaid i'r adroddiad gynnwys—
(a) enw'r awdurdod lleol;
(b) manylion cyswllt swyddog yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr adroddiad;
(c) copi o'r cais Rhan 2A (gan dynnu oddi yno'r wybodaeth a fyddai'n galluogi gwybod pwy yw'r person sy'n destun y cais);
(ch) os gwnaed gorchymyn, copi o'r gorchymyn hwnnw (gan dynnu oddi yno'r wybodaeth a fyddai'n galluogi gwybod pwy yw'r person sy'n destun y gorchymyn); a
(d) os na wnaed gorchymyn Rhan 2A, y rheswm dros beidio â'i wneud.
(3) Rhaid darparu'r adroddiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cais gael ei benderfynu a dim hwyrach na 10 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y penderfynir y cais.
(4) Yn y rheoliad hwn, “penderfynir y cais” naill ai pan wneir gorchymyn yn unol â'r cais neu pan wrthodir y cais neu pan dynnir y cais yn ôl.
Dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi adroddiad ar amrywiadau neu ddirymiadau o orchmynion Rhan 2A i Weinidogion Cymru
11 

(1) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru bob tro y caiff gorchymyn Rhan 2A a wnaed yn unol â chais Rhan 2A ac a wnaed ganddo ei amrywio neu ei ddirymu.
(2) Rhaid i'r adroddiad gynnwys—
(a) enw'r awdurdod lleol;
(b) manylion cyswllt swyddog yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr adroddiad;
(c) copi o'r gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu'r gorchymyn Rhan 2A (gan dynnu oddi yno'r wybodaeth a fyddai'n galluogi gwybod pwy yw'r person sy'n destun y gorchymyn); ac
(ch) copi o'r gorchymyn gwreiddiol (gan dynnu oddi yno'r wybodaeth a fyddai'n galluogi gwybod pwy yw'r person sy'n destun y gorchymyn).
(3) Rhaid i'r adroddiad ddarparu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r gorchymyn Rhan 2A gael ei amrywio neu ei ddirymu a dim hwyrach na 10 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r diwrnod pan fo'r awdurdod lleol yn ymwybodol bod y gorchymyn Rhan 2A wedi cael ei amrywio neu ei ddirymu.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010