
2010 Rhif 1512 (Cy.138)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy)(Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010
Gwnaed 27 Mai 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Mehefin 2010
Yn dod i rym 24 Mehefin 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac wedi ymgynghori â sefydliadau cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi a chychwyn
1 
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y draffordd” (“the motorway”) yw Traffordd Llundain i Dde Cymru (yr M4).
Gosod terfyn cyflymder
3 
Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y rhan honno o gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin yn Rogiet yn Sir Fynwy sy'n estyn o bwynt 800 o fetrau i'r dwyrain o linell ganol trosbont Heol yr Orsaf hyd at bwynt 752 o fetrau i'r gorllewin o linell ganol trosbont Heol yr Orsaf.
Dirymiad
4 
Dirymir Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya 2005 drwy hyn.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
27 Mai 2010