
2010 Rhif 1503 (Cy.137)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010
Gwnaed 21 Mai 2010
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Cyflwynwyd adroddiad i Weinidogion Cymru, dyddiedig Medi 2009, gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar adolygiad y Comisiwn o ffiniau cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a'i argymhellion ar gyfer y cymunedau hynny.
Penderfynodd Gweinidogion Cymru roi effaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Aeth mwy na chwe wythnos heibio er pan gyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010.
(2) At unrhyw ddiben a bennir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar 1 Mehefin 2010.
(3) At ddibenion cyfrifo unrhyw dreth gyngor sy'n daladwy mewn perthynas ag annedd mewn ardal a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn o un gymuned i gymuned arall, rhaid ystyried bod y trosglwyddiad yn digwydd ar 1 Ebrill 2011.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyron “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”), “Map D” (“Map D”), “Map E” (“Map E”), “Map F” (“Map F”), “Map G” (“Map G”), “Map H” (“Map H”), “Map I” (“Map I”), “Map J” (“Map J”), “Map K” (“Map K”) a “Map L” (“Map L”) yw'r mapiau a farciwyd, yn eu trefn, fel mapiau A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K ac L o Orchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010, ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu etholiadol, yw'r ardal honno fel y'i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu etholiadol, yw'r ardal honno fel y mae'n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 mae unrhyw gyfeiriad at gymuned neu adran etholiadol yn gyfeiriad, yn eu trefn, at gymuned neu adran etholiadol o Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; ac
 os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵ r neu nodwedd ddaearyddol debyg, rhaid ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Abertyleri a Nant-y-glo a'r Blaenau – newid yn yr ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol yn yr adran etholiadol
3 
Mae'r rhan o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau a ddangosir â llinellau ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Abertyleri;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cwmtyleri o gymuned Abertyleri; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwmtyleri.
Diddymu cymuned Beaufort a chreu cymunedau newydd – Badminton, Beaufort a Rasa
4 

(1) Diddymir cymuned bresennol Beaufort.
(2) Crëir tair cymuned newydd, a enwir Badminton, Beaufort a Rasa.
(3) Mae'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap B—
(a) yn cael ei drosglwyddo i gymuned newydd Beaufort; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beaufort.
(4) Mae'r rhan o adran etholiadol Beaufort a ddangosir â llinellau ar Fap C yn ffurfio rhan o adran etholiadol Badminton.
(5) Mae'r rhan o adran etholiadol Badminton a ddangosir â llinellau croes ar Fap C yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beaufort.
(6) Mae'r rhan o adran etholiadol Badminton a ddangosir â llinellau ar Fap D yn ffurfio rhan o adran etholiadol Rasa.
(7) Ffurfir cymuned newydd Beaufort, ac adran etholiadol Beaufort fel y'i newidir gan baragraffau (3), (4) a (5), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap E.
(8) Ffurfir cymuned newydd Badminton, ac adran etholiadol Badminton fel y'i newidir gan baragraffau (4), (5) a (6), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap F.
(9) Ffurfir cymuned newydd Rasa, ac adran etholiadol Rasa fel y'i newidir gan baragraff (6), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap G.
Bryn-mawr a Nant-y-glo a'r Blaenau – newid yn ffiniau cymunedau a newidiadau canlyniadol mewn adrannau etholiadol
5 

(1) Mae'r rhan o gymuned Bryn-mawr a ddangosir â llinellau ar Fap H—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau;
(b) yn ffurfio rhan o ward Nant-y-glo o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Nant-y-glo.
(2) Mae'r rhan o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau a ddangosir â llinellau croes ar Fap H—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Bryn-mawr;
(b) yn ffurfio rhan o ward De Bryn-mawr o gymuned Bryn-mawr; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Bryn-mawr.
Diddymu cymuned Glynebwy a chreu cymunedau newydd – Gogledd Glynebwy a De Glynebwy
6 

(1) Diddymir cymuned bresennol Glynebwy.
(2) Crëir dwy gymuned newydd, a enwir Gogledd Glynebwy a De Glynebwy.
(3) Mae'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap I—
(a) yn cael ei drosglwyddo i gymuned Cwm; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwm.
(4) Mae'r rhan o adran etholiadol Gogledd Glynebwy a ddangosir â llinellau ar Fap J yn ffurfio rhan o adran etholiadol De Glynebwy.
(5) Mae'r rhan o adran etholiadol De Glynebwy a ddangosir â llinellau croes ar Fap J yn ffurfio rhan o adran etholiadol Gogledd Glynebwy.
(6) Ffurfir cymuned newydd Gogledd Glynebwy, ac adran etholiadol Gogledd Glynebwy fel y'i newidir gan baragraffau (4) a (5) o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap K.
(7) Ffurfir cymuned newydd De Glynebwy, ac adran etholiadol De Glynebwy fel y'i newidir gan baragraffau (3), (4) a (5), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap L.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2010