
2010 Rhif 147 (Cy.22)
DŴR, CYMRU
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 26 Ionwar 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Ionawr 2010
Yn dod i rym 19 Chwefror 2010

Dynodir Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Chwefror 2010.
Diwygiad o'r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4, paragraff 1(1) yn lle “[ ]” rhodder “31 Gorffennaf 2010”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2010