
2010 Rhif 146 (Cy.21)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 26 Ionwar 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Ionawr 2010
Yn dod i rym 1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2010. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
Diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000
2 
Diwygir Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 drwy fewnosod, ar ôl rheoliad 2 (tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith), y canlynol—“
Tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith: prisio am 1 Ebrill 2010 a diwrnodau dilynol
2A 

(1) At ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament am unrhyw ddiwrnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988—
(a) mewn perthynas â hereditament sydd â pheiriannau neu beirianwaith arno neu ynddo sy'n perthyn i unrhyw un o'r dosbarthiadau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, y tybiaethau rhagnodedig yw—
(i) bod unrhyw beiriannau neu beirianwaith o'r fath yn rhan o'r hereditament ac eithrio i'r graddau y mae ganddynt allu microgynhyrchu, a
(ii) nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith eraill yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif yn unol â gofynion paragraff 2(1); a
(b) mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, y dybiaeth ragnodedig yw nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif felly.
(2) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(a)(i) yn gymwys ac eithrio—
(a) mewn perthynas ag unrhyw eitem o beiriannau neu beirianwaith—
(i) a osodir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, a
(ii) y mae gallu microgynhyrchu ganddi ar y diwrnod y'i gosodir; a
(b) yn ystod y cyfnod—
(i) sy'n cychwyn ar y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, a
(ii) sy'n dod i ben ar y cynharaf o'r canlynol—(aa) y diwrnod cyntaf, ar ôl y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, pan fo rhestrau ardrethu i gael eu llunio at ddibenion adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a(bb) y diwrnod pan fo'r eitem o beiriannau neu beirianwaith yn peidio â bod â gallu microgynhyrchu.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gallu microgynhyrchu” yw gallu peiriannau neu beirianwaith i gael eu defnyddio i gynhyrchu trydan neu gynhyrchu gwres—
(a) gan ddibynnu yn gyfan gwbl neu'n bennaf, wrth gynhyrchu trydan neu (yn ôl fel y digwydd) wrth gynhyrchu gwres, ar ffynhonnell ynni neu ar dechnoleg a grybwyllir yn adran 26(2) (dehongli) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006; a
(b) pan nad yw gallu'r peiriannau neu beirianwaith i gynhyrchu trydan, neu (yn ôl fel y digwydd) i gynhyrchu gwres, yn fwy na'r gallu a grybwyllir yn adran 26(3) o'r Ddeddf honno.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2010