
2010 Rhif 1457 (Cy.130) (C.83)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010
Gwnaed 19 Mai 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4) a 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 
21 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ddod i rym—
(a) adran 140, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12;
(b) adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau a grybwyllir ym mharagraff (ch);
(c) Rhan 2 o Atodlen 12; ac
(ch) y diddymiadau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 4 o Atodlen 15 sy'n ymwneud ag adrannau 174 i 176 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 8 iddi.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Mai 2010