
2010 Rhif 1451 (Cy.129)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Bro Morgannwg (Cymunedau) 2010
Gwnaed 18 Mai 2010
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Medi 2009 ar ei adolygiad o'r ffiniau sirol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar y mater hwnnw.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bro Morgannwg (Cymunedau) 2010.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) neu i unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar 1 Mehefin 2010.
(3) Daw erthygl 6 i rym—
(a) at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad sydd i'w gynnal neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;
(b) at bob diben arall, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr Map A (“Map A”), Map B (“Map B”), Map C (“Map C”) a Map D (“Map D”) yn eu tro yw'r mapiau sydd wedi'u marcio A, B, C a D o Orchymyn Bro Morgannwg (Cymunedau) 2010 ac sydd wedi'u hadneuo yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976; acos dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Newid ardaloedd llywodraeth leol
3 
Gwneir newidiadau i'r ardal llywodraeth leol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
Llandochau a Llanfihangel-y-pwll – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
4 
Mae'r rhan o gymuned Llandochau a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel-y-pwll;
(b) yn ffurfio rhan o ward Llanfihangel-y-pwll yng nghymuned Llanfihangel-y-pwll; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dinas Powys.
Llan-maes a Llanilltud Fawr – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
5 
Mae'r rhan o gymuned Llanilltud Fawr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llan-maes.
6 
Yng nghymuned Llanilltud Fawr—
(a) nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward Trebefered yw 4;
(b) mae nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward y Gogledd yn parhau yn 5;
(c) nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward y De-ddwyrain yw 3;
(ch) nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward y Gorllewin yw 2.
Penarth a Sili – newidiadau mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
7 

(1) Mae'r rhannau o gymuned Sili a ddangosir fel ardaloedd croeslinellog “a” a “b” ar Fap C—
(a) yn cael eu trosglwyddo i gymuned Penarth;
(b) yn ffurfio rhan o ward Plymouth yng nghymuned Penarth; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Plymouth.
(2) Mae'r rhan o gymuned Penarth a ddangosir fel ardal groeslinellog “c” ar Fap C—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Sili; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Sili.
Pendeulwyn a Llanddunwyd — newidiadau mewn ardaloedd cymunedol
8 
Mae'r rhan o gymuned Llanddunwyd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pendeulwyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Mai 2010