
2010 Rhif 1410 (Cy.125)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010
Gwnaed 11 Mai 2010
Yn dod i rym 12 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 188(1) a (2)(d) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 316(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Mai 2010.
Diwygio Deddf Pysgodfeydd 1981 (p.29)
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pysgodfeydd 1981, ar ôl paragraff 17B mewnosoder—“
17C 
Any offence under section 190 of the Marine and Coastal Access Act 2009 (contravention of an order made by the Welsh Ministers in relation to fisheries in Wales).”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Mai 2010