
2010 Rhif 1384 (W.123)
DŴR, CYMRU
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010
Gwnaed 1 Mai 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mai 2010
Yn dod i rym 26 Mai 2010

Dynodir Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 26 Mai 2010.
Diwygiadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder–“
Defnyddio cynhyrchion a sylweddau mewn cyflenwadau preifat
4A 
Rhaid i unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir mewn cyflenwad preifat wedi 26 Mai 2010 fod yn gynnyrch neu sylwedd y caniateid ei ddefnyddio mewn cyflenwad dŵr o dan reoliad 31 o Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010.”.
(3) Yn lle rheoliad 5(1) rhodder—“
 Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991)—
(a) cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio;
(b) sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio,
(c) cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a monitro a gyflawnwyd, er mwyn gwirio effeithiolrwydd y broses ddiheintio, ac
(ch) cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o bum mlynedd.”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
1 Mai 2010