
2010 Rhif 1368 (Cy.118)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010
Gwnaed 25 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ebrill 2010
Yn dod i rym 20 Mai 2010

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) ac sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 51(3) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010 a daw i rym ar 20 Mai 2010.
Corfforaeth Newydd
2 
Ar 20 Mai 2010 sefydlir corff corfforaethol o'r enw Coleg Gŵyr Abertawe, at ddibenion sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol newydd o'r un enw.
Dyddiad gweithredu
3 
Y dyddiad gweithredu a bennwyd mewn perthynas â Coleg Gŵyr Abertawe yw 20 Awst 2010, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Gŵyr Abertawe o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2010