
2010 Rhif 1360 (Cy.115)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 24 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Ebrill 2010
Yn dod i rym 25 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Mai 2010.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009.
Diwygio'r Prif Reoliadau
3 

(1) Diwygir y Prif Reoliadau'n unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn nhrydydd paragraff y rhaglith—
(a) yn y testun Saesneg, yn lle “to the Secretary of State” rhodder “to the Welsh Ministers”;
a
(b) yn y testun Cymraeg yn lle “i'r Ysgrifennydd Gwladol” rhodder “i Weinidogion Cymru”.
(3) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y testun Cymraeg, yn lle'r diffiniad sy'n dechrau â'r geiriau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” ac sy'n gorffen â'r geiriau “yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;” rhodder“
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation2075/2005”) a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation2076/2005”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;”.
(4) Yn rheoliad 5(2)(b) (gwybodaeth)—
(a) yn y testun Saesneg, y ddau dro y ceir y gair “secretary” rhodder yn ei le y gair “Secretary”; a
(b) yn y testun Cymraeg, y ddau dro y ceir y geiriau “ysgrifennydd neu ysgrifenyddes” rhodder yn eu lle y gair “Ysgrifennydd”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Ebrill 2010