
2010 Rhif 1329 (Cy.112) (C.81)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010
Gwnaed 21 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni ddywedir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlenni iddi.
Y diwrnod penodedig
2 
26 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau canlynol ddod i rym o ran Cymru–
(a) adran 8(1) (darparu llety a chynnal a chadw i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989—
(i) adran 22C(11), a
(ii) adran 22F;
(b) adran 8(2) ac Atodlen 1 i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o'r Atodlen honno;
(c) adran 10(1) (swyddogion adolygu annibynnol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau—
(i) adran 25A(4), a
(ii) adran 25B(1)(b) a (d) a (2)(a);
(ch) adran 15 (dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal ac eraill) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989—
(i) yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 23ZA(3)(a), a
(ii) adran 23ZA(4);
(d) adran 16(1) (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989—
(i) yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 23ZB(1)(a), a
(ii) adran 23ZB(9);
(dd) adran 20(3) (aelod o staff dynodedig ar gyfer disgyblion sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol mewn ysgol);
(e) adran 21(2) (hawl i daliad mewn perthynas ag addysg bellach) i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran (5B) yn adran 23C o Ddeddf 1989;
(f) adran 22(3) a (5) (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) i'r graddau y maent yn mewnosod adran 23E(1B) ac (1C) yn Neddf 1989;
(ff) adran 23(1) (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant);
(g) adran 25(4) (seibiant oddi wrth ofalu am blant anabl) i'r graddau y mae'n mewnosod, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, is-baragraff (2) ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989;
(ng) adran 27 (hysbysiad yn cyfyngu ar lety mewn sefydliadau penodol);
(h) adran 28 (apelau etc. ynghylch hysbysiadau o dan adran 22B o Ddeddf 2000);
(i) adran 29 (rhoi hysbysiad o faterion sy'n ymwneud â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi plant etc.) i'r graddau y mae'n mewnosod, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 30A(3) a (4) yn Neddf 2000;
(j) adran 33 (ymchwil etc. i faterion sy'n gysylltiedig â swyddogaethau statudol penodol).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2010