
2010 Rhif 1317 (Cy.111)
BANCIAU A BANCIO
CYMDEITHASAU ADEILADU
Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010
Gwnaed 20 Ebrill 2010
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 19(1) o Ddeddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Gronfa Loteri Fawr a phersonau priodol eraill yn unol ag adran 19(2) o'r Ddeddf honno.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 19(3) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y'i gwneir.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cyfyngiadau a ragnodir
2 
Rhaid i ddosbarthiad o arian cyfrifon segur ar gyfer cwrdd â gwariant yng Nghymru gael ei wneud—
(a) ar gyfer cwrdd â gwariant ar ddiogelu neu wella'r amgylchedd, neu wariant sy'n gysylltiedig â hynny, neu
(b) ar gyfer cwrdd â gwariant ar ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau neu gyfleoedd i gwrdd ag anghenion pobl nad ydynt eto wedi cyrraedd 26 mlwydd oed, neu wariant sy'n gysylltiedig â hynny.
Alun Ffred Jones
Y Gweinidog dros Dreftadaeth, un o Weinidogion Cymru
20 Ebrill 2010