
2010 Rhif 1171 (Cy.104)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
AMDDIFFYN OEDOLION HYGLWYF, CYMRU
Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) (Cymru) 2010
Gwnaed 31 Mawrth 2010
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(1), 56(1)(f) a 61(5) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Chwefror 2010 yn unol ag adran 61(3) o'r Ddeddf honno (fel y'i haddaswyd gan adran 56(5)(b) o'r Ddeddf honno) a chymeradwywyd ef gan benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y'u gwneir.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Yr amgylchiadau pan na chaiff person cyfrifol ganiatáu i rywun arall ymgymryd â gweithgarwch rheoledig yng Nghymru mewn perthynas â phlant
2 

(1) Ni chaiff person cyfrifol (“PC”) ganiatáu i rywun arall (“A”) ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) neu'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi dyroddi i A, o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 naill ai—
(i) tystysgrif cofnod troseddol fanylach sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant (yn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA o'r Ddeddf honno), neu
(ii) hysbysiad i'r perwyl nad yw A—(aa) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant,(bb) wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, ac(cc) nad yw'n destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002;
(b) bod y dystysgrif wedi ei dyroddi neu'r hysbysiad wedi ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 90 diwrnod sy'n diweddu ar y dyddiad y mae PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant; ac
(c) bod PC wedi cael copi o'r dystysgrif honno neu'r hysbysiad hwnnw, cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant.
(3) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw fod PC, cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant, wedi ei fodloni nad yw A—
(a) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant ,
(b) wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, ac
(c) nad yw'n destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod di-dor pan fo PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant—
(a) os rhoddwyd y caniatâd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a
(b) os yw'r caniatâd yn parhau i gael effaith wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Yr amgylchiadau pan na chaiff person cyfrifol ganiatáu i rywun arall ymgymryd â gweithgarwch rheoledig yng Nghymru mewn perthynas ag oedolion hyglwyf
3 

(1) Ni chaiff person cyfrifol (“PC”) ganiatáu i rywun arall (“A”) ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) neu'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi dyroddi i A, o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997—
(i) tystysgrif cofnod troseddol fanylach sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (yn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o'r Ddeddf honno), neu
(ii) hysbysiad i'r perwyl nad yw A —(aa) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf, a(bb) nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b) bod y dystysgrif wedi ei dyroddi, neu'r hysbysiad wedi ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 90 diwrnod sy'n diweddu ar y dyddiad y mae PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf; ac
(c) bod PC wedi cael copi o'r dystysgrif honno neu'r hysbysiad hwnnw cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf.
(3) Yr amgylchiadau yn y paragraff hwn yw fod PC, cyn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf, wedi ei fodloni nad yw A—
(a) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf, a
(b) nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod di-dor pan fo PC yn caniatáu i A ymgymryd â gweithgarwch rheoledig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf—
(a) os rhoddwyd y caniatâd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a
(b) os yw'r caniatâd yn parhau i gael effaith wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Mawrth 2010