
2010 Rhif 1148 (Cy.103)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010
Gwnaed 31 Mawrth 2010
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 162(5A) a 181(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.
Diwygio Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
2 
Yn adran 24(1) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn y diffiniad o “awdurdod lleol” yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
Diwygio Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009
3 

(1) Diwygir Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Dysgu a Medrau 2000) rhodder “local authority”.
(3) Yn adran 44 yn y man priodol rhodder—“
 mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;”.
Diwygio Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009
4 

(1) Diwygir Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn adrannau 7 a 8 yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “local authority”.
(3) Yn adran 11 yn lle'r diffiniad o “awdurdod lleol” rhodder y canlynol—“
 ystyr “awdurdod lleol” yw awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;”.
Diwygio Mesur Addysg (Cymru) 2009
5 

(1) Diwygir Mesur Addysg (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Addysg 1996 ac yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) rhodder “local authority”.
(3) Yn adran 10 ar ôl is-adran (5) o'r adran 28IB newydd o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ychwaneger y canlynol—“
(6) In this section, sections 28IC, 28ID and 28IE “local authority” has the meaning given by section 579(1) of the Education Act 1996.”.
(4) Yn adran 19(1) yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.
Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
6 

(1) Diwygir Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y geiriau “(awdurdodau gwasanaethau plant)” ym mhennawd adran 4.
(3) Yn adran 4 yn lle “children’s services authority” ym mhob man lle y gwelir y geiriau hynny rhodder “local authority”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
31 Mawrth 2010