
2010 Rhif 1069 (Cy.100)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed 25 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mawrth 2010
Yn dod i rym 20 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ebrill 2010.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009.
Diwygio Rheoliadau 2009
3 

(1) Diwygir Rheoliadau 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996), yng Ngholofn 2, gyferbyn â “Potassium” yng Ngholofn 1, yn lle “200 mg” rhodder “2000 mg”.
Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Mawrth 2010