
2009 Rhif 889 (Cy.78)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009
Gwnaed 5 Ebrill 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Ebrill 2009
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Gorffennaf 2008 ar adolygiad o ran o'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ynghyd â'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar y mater hwnnw;
A bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) a (4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009.
(2) At unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2009.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2009, sef y dyddiad penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map sydd wedi'i farcio “Map o Orchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 .
Newidiadau i ardaloedd sirol, bwrdeistref sirol ac ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
3 
Mae'r rhan honno o sir Powys sy'n dod o fewn cymuned Tal-y-bont ar Wysg ac a ddangosir gyda chroeslinellau fel ardal “A” ar y map ffiniau—
(a) yn cael ei throsglwyddo i fwrdeistref sirol Merthyr Tudful;
(b)  yn ffurfio rhan o gymuned y Faenor; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Faenor.
4 
Mae'r rhan honno o gymuned Tal-y-bont ar Wysg yn sir Powys a ddangosir gyda chroeslinellau fel ardal “B” ar y map ffiniau—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llangynidr; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llangynidr.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2009