
2009 Rhif 825 (Cy.74)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) (Dirymu) 2009
Gwnaed 30 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Ebrill 2009
Yn dod i rym 24 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 181 o Ddeddf Addysg 2002, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) (Dirymu) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Ebrill 2009 ac maent yn gymwys i Gymru.
Dirymu
2 
Dirymir Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2009