Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2009 Rhif 778 (Cy.66)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009
Gwnaed 24 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Mawrth 2009
Yn dod i rym 1 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 2 iddi yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2009.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn ar ei chyfer;
 ystyr “dyddiad diddymu” (“dissolution date”) yw 1 Hydref 2009;
 mae i'r ymadrodd “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 11(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Mehefin 2009; ac
 ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol yng Nghymru fel y'i disgrifir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Sefydlu Byrddau Iechyd Lleol
3 
Yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, sefydlir y chwe Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac fe'u gelwir wrth yr enwau a bennir ar eu cyfer yn yr Atodlen honno.
Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol
4 

(1) Mae pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yn cyfateb i'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod yn cael eu hamrywio, yna mae ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei hamrywio yn unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys i'r weithred o greu prif ardal newydd llywodraeth leol, o ddiddymu prif ardal bresennol llywodraeth leol neu o uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.
Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu Byrddau Iechyd Lleol
5 

(1) Dyddiad gweithredol pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yw 1 Hydref 2009.
(2) Dyddiad cyfrifyddu pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 i'r Gorchymyn hwn yw 31 Mawrth.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
6 
Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn y swyddogaethau a ganlyn—
(a) ymrwymo i gontractau'r GIG;
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y cyfryw bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol yn effeithiol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Diddymiadau
7 
Diddymir, yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, yr un ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003.
Diwygiadau i'r Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003
8 
Diwygir Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 yn unol ag erthygl 9.
9 
Yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, dileer yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer) a rhodder yn ei lle'r Atodlen yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009
ATODLEN 1
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a Phrif Ardaloedd Llywodraeth Leol y sefydlir hwy ar eu cyfer
Erthyglau 3 a 4


Colofn 1 Colofn 2
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 Prif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar eu cyfer

1 
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Casnewydd, Tor-faen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent

2 
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf

3 
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro Caerdydd a Bro Morgannwg

4 
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe

5 
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion

6 
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd, Wrecsam, Conwy ac Ynys Môn
ATODLEN 2
Y 21 o Fyrddau Iechyd Lleol a ddiddymir yn effeithiol o 1 Hydref 2009
Erthygl 7


Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003
1 Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn
2 Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd
3 Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
4 Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion
5 Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin
6 Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych
7 Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint
8 Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy
9 Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro
10 Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe
11 Bwrdd Iechyd Lleol Conwy
12 Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent
13 Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr
14 Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili
15 Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful
16 Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd Port Talbot
17 Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd
18 Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf
19 Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen
20 Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg
21 Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam
ATODLEN 3
Erthyglau 8 a 9
“
ATODLEN
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a Phrif Ardaloedd Llywodraeth Leol y sefydlir hwy ar eu cyfer
Erthyglau 3 a 5


Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 Y brif ardal llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer
1 Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys Powys”