
2009 Rhif 773 (Cy.65) (C.48)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009
Gwnaed 23 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008 ac ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 30 Mawrth 2009.
Cychwyn
2 
Daw adran 315 (lluoedd arfog: prawf cysylltiad lleol) i rym ar y dyddiad cychwyn mewn perthynas â cheisiadau—
(i) dyrannu llety tai, y mae adran 166 o Ddeddf Tai 1996 yn gymwys iddynt; neu
(ii)  y mae Rhan VII (digartrefedd), fel y'i cymhwysir gan adran 183(1) (cais am gymorth) o'r Ddeddf honno, yn gymwys iddynt,a wnaed ar y dyddiad cychwyn neu ar ei ôl.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2009