
2009 Rhif 709 (Cy.61)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009
Gwnaed 16 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Mawrth 2009
Yn dod i rym 6 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2009.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
2 
Yn rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) ym mharagraff (1), yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.
Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
3 
Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yng ngholofn 2 o Dabl A, yn y cofnod ynghylch rheoliad 53, yn lle “£19,000” rhodder “£20,750”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2009