
2009 Rhif 632 (Cy.58)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2009
Gwnaed 11 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mawrth 2009
Yn dod i rym 6 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt  drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2009.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2 
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £22.00 yr wythnos.
Dirymu
3 
Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008 drwy hyn wedi'u dirymu.
Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
4 
Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur “ £19,000” rhodder y ffigur “£20,750” yn y ddau le y mae'n ymddangos.
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
5 
Ym mharagraff 28H—
(a) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£5.45” rhodder y ffigur “£5.65” ym mhob lle y mae'n ymddangos; a
(b) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£8.15” rhodder y ffigur “£8.45” ym mhob lle y mae'n ymddangos.
Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau
6 
Yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (cyfalaf i'w ddiystyru)—
(a) ym mharagraff 2(2) yn lle “whom the resident is liable to maintain by virtue of section 42(1) of the National Assistance Act 1948 (liability to maintain wife or husband and children).” rhodder “of the resident”; a
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) In this paragraph a reference to a child shall be construed in accordance with section 1 of the Family Law Reform Act 1987.”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
11 Mawrth 2009