
2009 Rhif 631 (Cy.57) (C.43)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009
Gwnaed 11 Mawrth 2009
Yn dod i rym 6 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a Chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig
2 
6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 —
(a) adran 147 (diddymu atebolrwydd perthnasau am dâl cynnal);
(b) Atodlen 13 (darpariaethau trosiannol yn ymwneud ag adran 147); ac
(c) Rhan 5 o Atodlen 15 (diddymiadau a dirymiadau) ac adran 166 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honno.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2009