
2009 Rhif 579 (Cy.55) (C.50)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009
Gwnaed 9 Mawrth 2009
Yn dod i rym 1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 134(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 1985;; ac
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000 ;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008;
Cychwyn ar ddarpariaethau trafnidiaeth leol o ran Cymru
2 
1 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn—
(a) Adran 7, ac yn unol â hynny Atodlen 1.
(b) Adran 8 i adran 12 yn gynhwysol.
(c) Adran 13(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 13(2)) ac adran 13(2).
(ch) Adran 46, ac yn unol â hynny, Atodlen 2.
(d) Adran 64.
(dd) Adran 65(1).
(e) Adran 68(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 68(3)) ac adran 68(3).
(f) Adran 69 i adran 71 yn gynhwysol.
(ff) Adran 75.
(g) Adran 103 i adran 108 yn gynhwysol.
(ng) Adran 109, ac, yn unol â hynny, Atodlen 5.
(h) Adran 110 i adran 111 yn gynhwysol.
(i) Adran 112(1).
(j) Adran 113(1) i (4) yn gynhwysol.
(l) Adran 114.
(ll) Adran 115(1) i (2) yn gynhwysol.
(m) Adran 116(1) i (3) yn gynhwysol.
(n) Adran 117(1).
(o) Adran 118(1) i (5) yn gynhwysol.
(p) Adran 121 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 6) a Rhan 1o Atodlen 6.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2009
YR ATODLEN
DARPARIAETHAU TROSIANNOL
1 
Er gwaethaf dyfod i rym adran 10 o'r Ddeddf, bydd strategaeth fysiau a baratowyd gan awdurdod trafnidiaeth lleol yn unol ag adran 110 o Ddeddf 2000 (strategaethau bysiau) yn parhau i gael effaith o ran adran 124(1)(a) o'r Ddeddf honno (cynlluniau contractau o ansawdd).
2 
Er gwaethaf dyfod i rym adran 64 o'r Ddeddf, bydd adran 155 o Ddeddf 2000 (cosbau) yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru heb y diwygiadau a wnaed gan adran 64 o'r Ddeddf o ran cosbau a osodir gan gomisiynydd traffig yn erbyn gweithredydd gwasanaeth lleol os yw'r comisiynydd traffig hwnnw wedi'i fodloni fod y gweithredydd, cyn 1 Ebrill 2009—
(a) wedi methu â gweithredu gwasanaeth lleol a gofrestrwyd o dan adran 6 o Ddeddf 1985,
(b) wedi gweithredu gwasanaeth lleol yn groes i'r adran honno neu i adran 118(4) neu 129(1)(b) o Ddeddf 2000, neu
(c) wedi methu â chydymffurfio ag adran 138 neu 140(3) o Ddeddf 2000.
3 

(1) Er gwaethaf dyfod i rym adran 71 o'r Ddeddf, rhaid ymdrin ag unrhyw gais a wneir cyn 1 Ebrill 2009 ac sy'n ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1985 a restrir yn is-baragraff (2), ond na chafwyd penderfyniad arno erbyn y dyddiad hwnnw, megis petai'r cais hwnnw wedi cael ei wneud ar 1 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a) adran 75(3) (tanysgrifio am gyfrannau, sicrydau neu eiddo neu asedau eraill penodol, neu eu caffael, eu gwaredu etc);
(b) adran 79(3) (gwneud neu warantu benthyciadau penodol);
(c) adran 79(7) (gwarannau etc mewn cysylltiad â gwaredu cyfrannau, sicrydau neu eiddo neu asedau eraill penodol etc); ac
(ch) adran 79(8) (darparu cymorth ariannol ar ffurf grantiau, benthyciadau, etc).