
2009 Rhif 572 (Cy.54)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009
Gwnaed 9 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2009
Yn dod i rym 1 Ebrill 2009
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32 a 210 o Ddeddf Addysg 2002, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Dirymir Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000.
Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion gan awdurdod addysg lleol
3 

(1) Pan fo awdurdod addysg lleol yn bwriadu dyroddi hysbysiad o dan adran 32(6) o Ddeddf Addysg 2002 i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddo wneud y canlynol—
(a) cyn cymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllir ym mharagraffau (b) i (dd), ymgynghori â'r corff llywodraethu, y pennaeth a holl staff arall yr ysgol;
(b) paratoi datganiad—
(i) yn dynodi ei fod yn bwriadu newid amserau sesiynau'r ysgol,
(ii) yn pennu'r newid arfaethedig a pha bryd y bwriedir iddo ddod i rym,
(iii) yn rhoi manylion dyddiad, amser a lle'r cyfarfod y mae'n ofynnol iddo ei gynnal yn rhinwedd paragraff (d) ac yn esbonio y caiff y sawl nad yw'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y newid arfaethedig cyn i'r cyfarfod ddigwydd;
(c) cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at Gymraeg neu Saesneg), os oes y cyfryw, ag y mae'n ei ystyried yn briodol;
(ch) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—
(i) bod rhieni pob disgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol yn cael copi o'r datganiad (yn rhad ac am ddim) o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (d), a
(ii) bod copïau o'r datganiad ar gael i'w weld (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y pythefnos yn union cyn y cyfarfod hwnnw;
(d) rhoi cyfle i drafod yr hyn a fwriedir mewn cyfarfod sy'n agored i—
(i) pob rhiant i bob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,
(ii) y pennaeth a holl staff arall yr ysgol,
(iii) aelodau'r corff llywodraethu,
(iv) unrhyw bersonau eraill y caiff yr awdurdod addysg lleol eu gwahodd;
(dd) ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (b)(iii) ac unrhyw sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ar yr hyn a fwriedir cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau hynny o gwbl ac (os felly) a ddylid gweithredu'r bwriad gydag unrhyw addasiad neu heb ei addasu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (naill ai gydag addasiad neu heb ei addasu), rhaid iddo, o leiaf dri mis cyn y bydd unrhyw newid yn dod i rym—
(i) hysbysu'r corff llywodraethu a'r pennaeth o'r newid a pha bryd y bydd yn dod i rym, a
(ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol yn cael eu hysbysu o hynny.
(3) Rhaid gweithredu newid i amserau sesiwn ysgol fel mai ar ddechrau blwyddyn ysgol yn unig y bydd yn dod i rym.
(4) Mae dull gweithredu unrhyw gyfarfod a gynhelir yn rhinwedd paragraff (1)(d) i fod dan reolaeth yr awdurdod addysg lleol.
Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion gan gorff llywodraethu
4 

(1) Pan fo corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir yn bwriadu gwneud unrhyw newid i amserau sesiynau'r ysgol (neu os mai un yn unig sydd, i sesiwn ysgol), rhaid iddo wneud y canlynol —
(a) cyn cymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllir ym mharagraff (b) i (e), ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol, y pennaeth a holl staff arall yr ysgol;
(b) paratoi datganiad—
(i) yn dynodi ei fod yn bwriadu newid yr amserau hynny,
(ii) yn pennu'r newid arfaethedig a pha bryd y bwriedir iddo ddod i rym,
(iii) yn tynnu sylw at unrhyw sylwadau ar yr hyn a fwriedir fel y'i rhoddir yn yr atodiad i'r datganiad yn rhinwedd paragraff (c) a chynnwys unrhyw ymateb i'r sylwadau ag y mae'n ei ystyried yn briodol, a
(iv) yn rhoi manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (dd) ac yn esbonio y caiff y sawl nad yw'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y newid arfaethedig cyn i'r cyfarfod ddigwydd;
(c) os yw'r awdurdod addysg lleol yn gwneud hynny'n ofynnol ganddo, cynnwys fel atodiad i'r datganiad hwnnw unrhyw sylw ysgrifenedig y caiff yr awdurdod ei ddarparu at y diben hwnnw;
(ch) cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at Gymraeg neu Saesneg), os oes y cyfryw, ag y mae'n ei ystyried yn briodol neu yn ôl fel y caiff yr awdurdod addysg lleol gyfarwyddo;
(d) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—
(i) bod rhieni pob disgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol yn cael copi o'r datganiad ac unrhyw atodiad (yn rhad ac am ddim) o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (dd), a
(ii) bod copïau o'r datganiad ac unrhyw atodiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y pythefnos yn union cyn y cyfarfod hwnnw;
(dd) rhoi cyfle i drafod yr hyn a fwriedir mewn cyfarfod sy'n agored i—
(i) pob rhiant i bob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,
(ii) y pennaeth a holl staff arall yr ysgol, a
(iii) unrhyw bersonau eraill y caiff y corff llywodraethu eu gwahodd;
(e) ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (b)(iv) ac unrhyw sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ar yr hyn a fwriedir cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau hynny o gwbl ac (os felly) a ddylid gweithredu'r bwriad gydag unrhyw addasiad neu heb ei addasu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (naill ai gydag addasiad neu heb ei addasu), rhaid iddo, o leiaf chwe wythnos cyn y bydd unrhyw newid yn yr amserau hynny yn dod i rym—
(i) hysbysu'r awdurdod lleol addysg o'r newid a pha bryd y bydd yn dod i rym, a
(ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol yn cael eu hysbysu o hynny.
(3) Pan fo'r newid yn ymwneud â—
(a) yr amserau pan yw'r sesiwn ysgol gyntaf i ddechrau neu pan yw'r ail sesiwn ysgol i ddiweddu (neu'r ddau), neu
(b) os mae un sesiwn yn unig sydd, yr amser pan yw i ddechrau neu ddiweddu (neu'r ddau),
rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) beidio â bod yn llai na thri mis.
(4) Rhaid gweithredu newid i amserau sesiwn ysgol fel y bydd yn dod i rym—
(a) pan fo paragraff (3) yn gymwys, ar ddechrau blwyddyn ysgol; a
(b) ym mhob achos arall, ar ddechrau tymor ysgol.
(5) Mae dull gweithredu unrhyw gyfarfod a gynhelir yn rhinwedd paragraff (1)(dd) i fod dan reolaeth y corff llywodraethu.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2009