
2009 Rhif 55 (Cy.19)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Datgymhwyso) (Cymru) 2009
Gwnaed 19 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Ionawr 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 94 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Datgymhwyso) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw Rheoliadau sy'n dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994 i rym.
(3) Dim ond i awdurdodau lleol yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “mynediad i gofnodion eiddo” (“access to property records”) yw mynediad i gofnodion eiddo a roddir gan awdurdod lleol mewn unrhyw un neu rai o'r ffyrdd a ganlyn—
(a) caniatáu i berson archwilio neu chwilio cofnodion eiddo mewn man a ddynodwyd gan yr awdurdod ar gyfer gwneud hynny;
(b) caniatáu gwneud cofnodion eiddo, neu ddarparu copïau ohonynt; neu
(c) trosglwyddo cofnodion eiddo neu gopïau o'r cyfryw gofnodion yn electronig,
ac yn y Gorchymyn hwn mae'r ymadrodd “mynediad i gofnodion eiddo” (“access to property records”) i'w ddehongli'n unol â hynny.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr cyfeiriad at fod awdurdod lleol yn “ateb ymholiadau ynghylch eiddo” (“answering enquiries about a property”) yw—
(a) bod yr awdurdod yn ateb unrhyw ymholiad penodol, boed ar lafar neu'n ysgrifenedig, a wneir gan berson ynghylch eiddo neu gofnodion eiddo; neu
(b) bod yr awdurdod yn cyflawni unrhyw weithgareddau at ddibenion ateb y cyfryw ymholiadau.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “cofnodion eiddo” (“property records”)—
(a) yn cynnwys dogfennau, cofrestrau, ffeiliau ac archifau (sydd ar gadw ar unrhyw ffurf gan yr awdurdod lleol) sy'n ymwneud ag eiddo;
(b) yn cynnwys gwybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw ddogfennau, cofrestrau, ffeiliau ac archifau; ond
(c) heb fod yn cynnwys cofrestr pridiannau tir lleol a gedwir o dan adran 3(2) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975;
 ystyr “eiddo” (“property”) yw adeilad neu adeiledd penodedig neu dir penodedig y mae cofnodion eiddo mewn perthynas ag ef ar gadw gan yr awdurdod lleol.
Datgymhwyso adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003
3 
Nid yw adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys mewn perthynas â'r awdurdodau gwerth gorau a enwir yn erthygl 4, o ran caniatáu mynediad i gofnodion eiddo neu ateb ymholiadau ynghylch eiddo.
Awdurdodau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt
4 
Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yw'r awdurdodau gwerth gorau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
19 Ionawr 2009