
2009 Rhif 49 (Cy.17) (C.5)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009
Gwnaed 14 Ionawr 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
Y diwrnod penodedig
2 
Mae adran 55 (Hawl disgyblion chweched dosbarth i gael eu hesgusodi rhag mynychu addoliad crefyddol) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i ddod i rym ar 9 Chwefror 2009 o ran Cymru.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2009