
2009 Rhif 48 (Cy.16)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 16 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Ionawr 2009
Yn dod i rym 9 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 71(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Rheoliadau
2 
Yn lle rheoliad 12 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999, rhodder y canlynol —“
Religious Education
12 
Arrangements must be made to ensure that, so far as practicable, every pupil attending a maintained special school —
(a) receives religious education unless withdrawn from receiving such education in accordance with the wishes of the pupil’s parent; and
(b) attends religious worship unless withdrawn from attendance at such worship —
(i) in the case of a sixth-form pupil, in accordance with the pupil’s own wishes; and
(ii) in any other case, in accordance with the wishes of the pupil’s parent.”
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2009