
2009 Rhif 456 (Cy.47)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol, Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 3 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Mawrth 2009
Yn dod i rym 26 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 61, 66, 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol, Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 26 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau Ffioedd Deintyddol” (“Dental Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;
 ystyr “Rheoliadau GDS” (“GDS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006; ac
 ystyr “Rheoliadau PDS” (“PDS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006.
Diwygiadau i Reoliadau Ffioedd Deintyddol
3 
Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol (Ffioedd Band 3 — Darparu Cyferpynnau)—
(a) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) laboratory fabricated porcelain or composite veneers, including acid etch retention”; ac
(b) ym mharagraff (m), ar ôl y gair “other” mewnosoder “non-metallic”.
Diwygio Rheoliadau GDS
4 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau GDS (unedau o weithgaredd deintyddol), ym mharagraff 2, yn Nhabl B—
(a) o dan y cofnod olaf yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi) ychwaneger y cofnod a ganlyn—“Conservation treatment of deciduous teeth in a patient who is aged under 18 years at the beginning of a course of treatment”; a
(b) o dan y cofnod olaf yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir) ychwaneger y cofnod a ganlyn—“3.0”.
Diwygio Rheoliadau PDS
5 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau PDS (unedau o weithgaredd deintyddol), ym mharagraff 2, yn Nhabl B—
(a) o dan y cofnod olaf yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi) ychwaneger y cofnod a ganlyn—“Conservation treatment of deciduous teeth in a patient who is aged under 18 years at the beginning of a course of treatment”; a
(b) o dan y cofnod olaf yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir) ychwaneger y cofnod a ganlyn—“3.0”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2009