
2009 Rhif 441 (Cy.46)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009
Gwnaed 27 Chwefror 2009
Yn dod i rym 9 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 9 Mawrth 2009.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
 ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw ddaliad lle y cedwir neu y bwriedir cadw un neu ragor o heidiau o frwyliaid;
 ystyr “haid” (“flock”) yw'r holl ieir o'r un statws iechyd â'i gilydd a gedwir yn yr un fangre neu yn yr un caeadle ac sy'n ffurfio un uned epidemiolegol ac, yn achos ieir dan do, yn cynnwys pob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;
 ystyr “haid o frwyliaid” (“broiler flock”) yw haid a gedwir i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;
 ystyr “ieir” (“chickens”) yw adar o'r rhywogaeth Gallus gallus;
 ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran unrhyw ddaliad yw'r person sydd â gofal y daliad hwnnw.
Yr awdurdod cymwys
3 
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion —
(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 646/2007 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran targed Cymunedol i leihau nifer achosion Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn brwyliaid ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1091/2005; a
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn y fframwaith o raglenni cenedlaethol i reoli salmonela mewn dofednod.
Hysbysu am heidiau o frwyliaid
4 

(1) Rhaid i feddiannydd y daliad lle y cedwir un neu ragor o heidiau o frwyliaid hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth ym mharagraff (4) o'r erthygl hon—
(a) cyn pen tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu
(b) yn achos daliad a sefydlir ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, cyn pen tri mis ar ôl sefydlu'r daliad.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am yr wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(4) Dyma'r wybodaeth y mae'n rhaid ei hysbysu —
(a) cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;
(b) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a'r person sydd biau pob haid ar y daliad;
(c) nifer yr heidiau ar y daliad.
Samplu
5 

(1) Rhaid i'r meddiannydd samplu yn unol â phwyntiau 1 a 2 o'r Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 646/2007 a rhaid iddo anfon samplau i labordy cymeradwy yn unol â phwynt 3.1 o'r Atodiad hwnnw (ac at ddibenion y pwynt hwnnw mae “express post” yn cynnwys post dosbarth cyntaf).
(2) O ran pob sampl rhaid i'r meddiannydd ddarparu'r wybodaeth a ganlyn—
(a) enw'r meddiannydd;
(b) cyfeiriad y daliad;
(c) teip y samplau;
(ch) y dyddiad pryd y cymerwyd y samplau;
(d) dull adnabod yr haid, pan fo rhagor nag un haid ar y daliad;
(dd) y dyddiad pryd y symudodd yr haid i'r daliad;
(e) oed yr haid.
Cofnodion samplau
6 

(1) Rhaid i'r meddiannydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cymryd sampl, gofnodi—
(a) y math o sampl a gymerwyd;
(b) y dyddiad pryd y cymerwyd y sampl;
(c) pan fo rhagor nag un haid ar y daliad, dull adnabod yr haid y cymerwyd y sampl ohoni;
(ch) oed yr haid a samplwyd;
(d) y labordy yr anfonwyd yr haid iddo;
(dd) y dyddiad cigydda arfaethedig yr haid a samplwyd.
(2) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi canlyniad pob prawf pan gaiff ef gan y labordy.
Cofnodion symudiadau
7 
Pan fo adar yn cael eu symud i neu oddi wrth ddaliad rhaid i'r meddiannydd gofnodi ar gyfer pob haid —
(a) dyddiad y symud;
(b) p'un a oedd y symud i'r daliad neu oddi wrtho;
(c) nifer yr adar a symudwyd;
(ch) oed yr adar a symudwyd;
(d) yn achos symud haid gyfan, dull adnabod yr haid honno, pan fo rhagor nag un haid ar y daliad.
(dd) dull adnabod yr adeilad neu'r grwp o adeiladau y symudwyd yr adar iddo, iddynt, oddi wrtho neu oddi wrthynt;
(e) cyfeiriad y daliad o le y daethant neu'r lladd-dy neu'r daliad yr anfonwyd hwy iddo.
Dyletswyddau'r person sydd â gofal labordy
8 
Pan fo labordy yn profi samplau, rhaid i'r person sydd â gofal y labordy sicrhau eu bod yn cael eu profi yn unol â phwynt 3 o'r Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 646/2007.
Gwahardd defnyddio gwrthficrobiaid
9 
Ni chaiff neb roi unrhyw gwrthficrobiad i unrhyw ieir fel dull penodol o reoli salmonela yn groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio gwrthficrobiaid).
Gwahardd defnyddio brechlynnau
10 
Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw ieir yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).
Cofnodion
11 
Rhaid i unrhyw berson sy'n gorfod cadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei gadw am ddwy flynedd ar ôl dyddiad ei wneud a rhaid iddo ei ddangos i un o arolygwyr neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru os bydd gofyn a chaniatáu gwneud copi neu gymryd echdyniad ohono.
Ymyrryd â samplau
12 
Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl na gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei gynnal o dan y Gorchymyn hwn.
Pwerau Gweinidogion Cymru mewn achosion o fethu â chydymffurfio
13 
Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd drefnu i'r cyfryw gamau gael eu cymryd ar draul y person sydd wedi methu â chydymffurfio.
Gorfodi
14 

(1) Yr awdurdod lleol sydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru yn hytrach na'r awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2009