
2009 Rhif 40 (Cy.12)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009
Gwnaed 14 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Ionawr 2009
Yn dod i rym 1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 9(4) a 9(4A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council”) yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol;
 ystyr “Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council’s Scheme”) yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
3 

(1) Y pwynt a bennir at ddibenion adran 9(4)(a) o'r Ddeddf yw pwynt 44 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
(2) Y swm sy'n cyfateb i'r pwynt a bennir ym mharagraff (1) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o bryd i'w gilydd o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.
Dirymu
4 
I'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl)1995.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2009