
2009 Rhif 393 (Cy.42)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2009
Gwnaed 26 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Chwefror 2009
Yn dod i rym 20 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(5), 172(4), 185(3) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Personau sydd wedi gadael Zimbabwe
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 fel a ganlyn—
(2) Yn rheoliad 5(c) yn lle “.” rhodder “;”.
(3) Ar ôl rheoliad 5(c) mewnosoder—“
(ch) person—
(i) a gyrhaeddodd Brydain Fawr ar 28 Chwefror 2009 neu ar ôl hynny ond cyn 18 Mawrth 2011;
(ii) oedd yn union cyn iddo gyrraedd Prydain Fawr wedi bod yn preswylio yn Zimbabwe; a
(iii) oedd yn union cyn gadael Zimbabwe, wedi derbyn cynnig, a wnaed gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, i'w gynorthwyo i ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig.”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 fel a ganlyn—
(2) Yn rheoliad 4 (2) (ch) yn lle “.” rhodder “;”.
(3) Ar ôl rheoliad 4 (2) (ch) mewnosoder—“
(d) person—
(i) a gyrhaeddodd Brydain Fawr ar 28 Chwefror 2009 neu ar ôl hynny ond cyn 18 Mawrth 2011;
(ii) oedd yn union cyn iddo gyrraedd Prydain Fawr yn preswylio yn Zimbabwe; a
(iii) oedd yn union cyn gadael Zimbabwe, wedi derbyn cynnig, a wnaed gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, i'w gynorthwyo i ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig.”.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2009