
2009 Rhif 392 (Cy.41)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 26 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Chwefror 2009
Yn dod i rym 20 Mawrth 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at y ddeddfwriaeth a nodir yn yr Atodlen gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y ddeddfwriaeth honno fel y'i diwygir o dro i dro.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Mawrth 2009.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007
2 
Mae Atodlen1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007 wedi'i disodli gan yr Atodlen a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2009
YR ATODLEN
Yr Atodlen Amnewid
Rheoliad 2

ATODLEN 1
Amodau Mewnforio
Rheoliadau 2(1), 4(7), 21, 36 a 37
RHAN 1 Darpariaethau sy'n Gyffredin i Nifer o Gategorïau o Gynnyrch
Terfynau gweddillion uchaf a halogion
1 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid.
2 
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid.
3 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/432/EC ar gymeradwyo cynlluniau monitro gweddillion a ddanfonwyd gan drydydd gwledydd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC.
4 
Penderfyniad y Comisiwn 2005/34/EC sy'n gosod safonau wedi'u harmoneiddio ar gyfer profi am weddillion penodol mewn cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd.
5 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd.
6 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 733/2008 ynglyn â'r amodau sy'n llywodraethu mewnforion o gynhyrchion amaethyddol sy'n tarddu o drydydd gwledydd yn sgil y ddamwain yn atomfa Chernobyl.
7 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1609/2000 sy'n sefydlu rhestr o gynhyrchion a eithrir o gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 737/90 ar yr amodau sy'n llywodraethu mewnforion o gynhyrchion amaethyddol sy'n tarddu o drydydd gwledydd yn sgil y ddamwain yn atomfa Chernobyl.
Enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy
8 
Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol.
9 
Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE.
Tystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforion o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid
10 
Penderfyniad y Comisiwn 2007/240/EC sy'n gosod tystysgrifau milfeddygol newydd ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw, semen, embryonau, ofa a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned yn unol â Phenderfyniad 79/542/EEC, 92/260/EEC, 93/195/EEC, 93/196/EEC, 93/197/EEC, 95/328/EC, 96/333/EC, 96/539/EC, 96/540/EC, 2000/572/EC, 2000/585/EC, 2000/666/EC, 2002/613/EC, 2003/56/EC, 2003/779/EC, 2003/804/EC, 2003/858/EC, 2003/863/EC, 2003/881/EC, 2004/407/EC, 2004/438/EC, 2004/595/EC, 2004/639/EC, 2006/168/EC.
Ardystiadau iechyd ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd
11 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd .
Rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau iechyd y cyhoedd ar fewnforion cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl
12 
Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ar gyfer eu bwyta gan bobl.
13 
Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
14 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 183/2005 sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid.
15 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 396/2005 ar lefelau uchaf plaleiddiaid mewn bwyd a bwyd anifeiliaid sy'n dod o blanhigion ac o anifeiliaid neu ar y bwyd neu'r bwyd anifeiliaid hwnnw .
16 
Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid.
17 
Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
18 
Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio.
19 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd.
20 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor.
21 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig.
22 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor.
RHAN 2 Cig Ffres o Wartheg, Defaid, Geifr a Moch
Trydydd gwledydd a'r gofynion o ran ardystiadau iechyd ar gyfer mewnforio cig ffres ohonynt
1 
Penderfyniad y Cyngor 79/542/EEC sy'n tynnu rhestr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd, ac sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac o ran ardystiadau milfeddygol, ar gyfer mewnforio i'r Gymuned anifeiliaid byw penodol a'u cig ffres.
Yr Ariannin
2 
Penderfyniad y Comisiwn 81/91/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth yr Ariannin sydd wedi'u cymeradwyo at ddibenion mewnforio cig eidion ffres a chig llo ffres, cig defaid ffres a chig ffres o anifeiliaid carngaled domestig i mewn i'r Gymuned.
Awstralia
3 
Penderfyniad y Comisiwn 83/384/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Awstralia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Botswana
4 
Penderfyniad y Comisiwn 83/243/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Botswana a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Brasil
5 
Penderfyniad y Comisiwn 81/713/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Ffedereiddiol Brasil a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig eidion ffres a chig llo ffres a chig ffres o anifeiliaid carngaled domestig i'r Gymuned .
Canada
6 
Penderfyniad y Comisiwn 87/258/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Nghanada a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Chile
7 
Penderfyniad y Comisiwn 87/124/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Chile a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Croatia
8 
Penderfyniad y Comisiwn 93/26/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Croatia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Ynysoedd Falkland
9 
Penderfyniad y Comisiwn 2002/987/EC ar y rhestr o sefydliadau yn Ynysoedd Falkland a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Kalaallit Nunaat (Greenland)
10 
Penderfyniad y Comisiwn 85/539/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Kalaallit Nunaat a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Gwlad yr Iâ
11 
Penderfyniad y Comisiwn 84/24/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngwlad yr Iâ a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia
12 
Penderfyniad y Comisiwn 95/45/EC ar y rhestr o sefydliadau yng Nghyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Madagascar
13 
Penderfyniad y Comisiwn 90/165/EEC ar y rhestr o sefydliadau ym Madagascar a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Mecsico
14 
Penderfyniad y Comisiwn 87/424/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Nhaleithiau Unedig Mecsico a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Moroco
15 
Penderfyniad y Comisiwn 86/65/EEC ar y rhestr o sefydliadau ym Moroco a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Namibia
16 
Penderfyniad y Comisiwn 90/432/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Namibia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Caledonia Newydd
17 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/628/EC ar y rhestr o sefydliadau yng Nghaledonia Newydd y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio cig ffres ohonynt i'r Gymuned.
Seland Newydd
18 
Penderfyniad y Comisiwn 83/402/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Seland Newydd a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned .
Paraguay
19 
Penderfyniad y Comisiwn 83/423/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Paraguay a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
De Affrica
20 
Penderfyniad y Comisiwn 82/913/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth De Affrica a Namibia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Gwlad Swazi
21 
Penderfyniad y Comisiwn 82/814/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Nheyrnas Gwlad Swazi a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Y Swistir
22 
Penderfyniad y Comisiwn 82/734/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Nghydffederasiwn y Swistir a gymeradwywyd at ddibenion allforio cig ffres i'r Gymuned.
Unol Daleithiau America
23 
Penderfyniad y Comisiwn 87/257/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Unol Daleithiau America a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Uruguay
24 
Penderfyniad y Comisiwn 81/92/EEC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Uruguay a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig eidion ffres a chig llo ffres, cig defaid ffres a chig ffres o anifeiliaid carngaled domestig i'r Gymuned.
Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia
25 
Penderfyniad y Comisiwn 98/8/EC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Ffederal Iwgoslafia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cig ffres i'r Gymuned.
Zimbabwe
26 
Penderfyniad y Comisiwn 85/473/EEC sy'n ychwanegu, drwy atodi Zimbabwe, at y rhestr o drydydd gwledydd y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt fuchod, moch a chig ffres.
Tystysgrifau iechyd — Canada
27 
Penderfyniad y Comisiwn 2005/290/EC ar dystysgrifau a symleiddiwyd ar gyfer mewnforio semen buchol a chig moch ffres o Ganada.
RHAN 3 Cynhyrchion Cig
Trydydd gwledydd a gofynion o ran ardystiadau iechyd ar gyfer mewnforio cynhyrchion cig
1 
Penderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd a thystysgrifau model ar gyfer mewnforio o drydydd gwledydd gynhyrchion cig penodol a stumogau, pledrennau a pherfeddion wedi'u trin ar gyfer eu bwyta gan bobl.
Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio cynhyrchion cig ohonynt

Yr Ariannin
2 
Penderfyniad y Comisiwn 86/414/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn yr Ariannin a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cynhyrchion cig i'r Gymuned.
Botswana
3 
Penderfyniad y Comisiwn 94/465/EC ar y rhestr o sefydliadau yn Botswana a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cynhyrchion cig i'r Gymuned.
Brasil
4 
Penderfyniad y Comisiwn 87/119/EC ar y rhestr o sefydliadau ym Mrasil a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cynhyrchion cig i'r Gymuned.
Namibia
5 
Penderfyniad y Comisiwn 95/427/EC ar y rhestr o sefydliadau yng Ngweriniaeth Namibia a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cynhyrchion cig i'r Gymuned.
Uruguay
6 
Penderfyniad y Comisiwn 86/473/EEC ar y rhestr o sefydliadau yn Uruguay a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cynhyrchion cig i'r Gymuned.
Zimbabwe
7 
Penderfyniad y Comisiwn 94/40/EC ar y rhestr o sefydliadau yn Zimbabwe a gymeradwywyd at ddibenion mewnforio cynhyrchion cig i'r Gymuned.
Trydydd gwledydd amrywiol
8 
Penderfyniad y Comisiwn 97/365/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff yr Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt gynhyrchion a baratowyd o gig gwartheg, moch, equidae a defaid a geifr.
9 
Penderfyniad y Comisiwn 97/569/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio cynhyrchion cig ohonynt.
RHAN 4 Llaeth a Chynhyrchion Llaeth
Trydydd gwledydd a gofynion o ran ardystiadau iechyd ar gyfer mewnforio llaeth a chynhyrchion sydd wedi eu seilio ar laeth
1 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC sy'n gosod amodau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac o ran ardystiadau milfeddygol ar gyfer cyflwyno i'r Gymuned laeth sydd wedi ei drin â gwres, cynhyrchion sydd wedi eu seilio ar laeth, a llaeth amrwd, sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu hyfed neu eu bwyta gan bobl.
Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio ohonynt laeth a chynhyrchion sydd wedi eu seilio ar laeth
2 
Penderfyniad y Comisiwn 97/252/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio llaeth a chynhyrchion llaeth ohonynt ar gyfer eu hyfed neu eu bwyta gan bobl.
RHAN 5 Cig Dofednod Ffres
Cyffredinol
1 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 798/2008 sy'n gosod rhestr o drydydd gwledydd, tiriogaethau, parthau neu adrannau y caniateir i ddofednod a chynhyrchion dofednod gael eu mewnforio ohonynt i'r Gymuned a thramwy drwyddi ac yn gosod gofynion o ran ardystiadau milfeddygol.
Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio cig dofednod ffres ohonynt
2 
Penderfyniad y Comisiwn 97/4/EC yn tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio cig dofednod ffres ohonynt .
RHAN 6 Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt
Cyffredinol
1 
Penderfyniad y Comisiwn 2000/585/EC sy'n tynnu rhestr o drydydd gwledydd y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio cig cwningen a chig penodol sy'n dod o anifeiliaid hela gwyllt ac o anifeiliaid hela a ffermir, ac sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac o ran ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforion o'r fath.
Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio cig anifeiliaid hela ohonynt
2 
Penderfyniad y Comisiwn 97/468/EC yn tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio cig anifeiliaid hela gwyllt ohonynt.
RHAN 7 Briwgig a Pharatoadau Cig
Y gofynion o ran ardystiadau iechyd
1 
Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy'n gosod amodau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac o ran ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd (paratoadau cig).
2 
Penderfyniad y Cyngor 79/542/EEC sy'n tynnu rhestr o drydydd gwledydd y caiff yr Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio gwartheg, moch a chig ffres ohonynt (briwgig).
Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio briwgig a pharatoadau cig ohonynt
3 
Penderfyniad y Comisiwn 1999/710/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff yr Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio briwgig a pharatoadau cig ohonynt.
RHAN 8 Cynhyrchion Amrywiol
Cyffredinol
1 
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion ac mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodwyd mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A (1) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC.
Trydydd gwledydd y caniateir mewnforio ohonynt gynhyrchion y mae Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC yn ymdrin â hwy
2 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/812/EC sy'n tynnu rhestrau o drydydd gwledydd y mae Aelod-wladwriaethau i awdurdodi mewnforio cynhyrchion penodol ohonynt ar gyfer eu bwyta gan bobl yn ddarostyngedig i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC.
Sefydliadau trydedd wlad y caniateir mewnforio ohonynt gynhyrchion y mae Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC yn ymdrin â hwy
3 
Penderfyniad y Comisiwn 97/467/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt gig cwningen a chig anifeiliaid hela a ffermir.
4 
Penderfyniad y Comisiwn 99/120/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt gasinau anifeiliaid.
5 
Penderfyniad y Comisiwn 2001/396/EC yn diwygio Penderfyniad 97/467/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt gig cwningen a chig anifeiliaid hela a ffermir, mewn perthynas â mewnforion cig adar di-gêl.
6 
Penderfyniad y Comisiwn 2001/556/EC sy'n tynnu rhestrau dros dro o sefydliadau trydedd wlad y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt gelatin sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl.
Y gofynion o ran ardystiadau iechyd
7 
Penderfyniad y Comisiwn 2000/585/EC sy'n gosod amodau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac o ran ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio cig anifeiliaid hela gwyllt a chig anifeiliaid hela a ffermir a chig cwningen o drydydd gwledydd.
8 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/779/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio casinau anifeiliaid o drydydd gwledydd.
9 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/863/EC ar dystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio cynhyrchion anifeiliaid o Unol Daleithiau America.
10 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004.
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
11 
Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
12 
Rheoliad (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosbarthwyd yn ddeunyddiau Categori 1 a Chategori 2 ac sydd wedi'u bwriadu at ddibenion technegol.
13 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar fesurau trosiannol a rheolau ardystio o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor parthed mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol.
14 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2007/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch mewnforio rhyng-gynhyrchion penodol a'u tramwy, a rheini'n rhyng-gynhyrchion sy'n deillio o ddeunydd Categori 3 ac sydd wedi'u bwriadu at ddefnydd technegol mewn dyfeisiau meddygol, diagnosteg in vitro ac adweithyddion labordy, ac yn diwygio'r Rheoliad hwnnw.
15 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1523/2007 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gwahardd rhoi ar y farchnad ac mewnforio i'r Gymuned, ac allforio ohoni, flew cathod a blew cwn, a chynhyrchion sy'n cynnwys blew o'r fath.
Gwair a gwellt (trydydd gwledydd y caniateir eu mewnforio ohonynt)
16 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn safleoedd arolygu ar ffin y Gymuned ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd.
Cynhyrchion cyfansawdd
17 
Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion a fyddai'n ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496 a 97/78/EC.
RHAN 9 Deunydd Genetig
Deunydd o deulu'r fuwch
1 
Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch ac i fewnforio'r semen hwnnw.
2 
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch ac mewnforio'r embryonau hynny o drydydd gwledydd.
3 
Penderfyniad y Comisiwn 2008/155/EC sy'n sefydlu rhestrau o dimau casglu a chynhyrchu embryonau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd ar gyfer allforio embryonau o deulu'r fuwch i'r Gymuned.
4 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/639/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch mewnforio semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch.
5 
Penderfyniad y Comisiwn 2006/168/EC sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid ac o ran ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio i'r Gymuned embryonau gwartheg.
Deunydd o deulu'r mochyn
6 
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn ac i fewnforio'r semen hwnnw.
7 
Penderfyniad y Comisiwn 2002/613/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch mewnforio semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn.
8 
Penderfyniad y Comisiwn 2008/636/EC sy'n sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt ofa ac embryonau rhywogaeth y mochyn).
Deunydd o deulu'r ddafad a theulu'r afr
9 
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC ac yn llywodraethu eu mewnforio i'r Gymuned.
10 
Penderfyniad y Comisiwn 2008/635/EC ar fewnforio i'r Gymuned semen, ofa ac embryonau o rywogaeth y ddafad a rhywogaeth yr afr parthed rhestrau o drydydd gwledydd ac o ganolfannau casglu semen a thimau casglu embryonau, a gofynion ardystio.
Deunydd o deulu'r ceffyl
11 
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC ac yn llywodraethu eu mewnforio i'r Gymuned.
12 
Penderfyniad y Comisiwn 96/539/EC ar ofynion iechyd anifeiliaid ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio i'r Gymuned semen rhywogaeth y ceffyl.
13 
Penderfyniad y Comisiwn 96/540/EC ar ofynion iechyd anifeiliaid ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio i'r Gymuned ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl.
14 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC sy'n sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd a'r rhannau o diriogaeth y gwledydd hynny y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio ohonynt equidae byw a semen, ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl.
15 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/616/EC sy'n cadarnhau'r rhestr o ganolfannau casglu semen a gymeradwywyd ar gyfer mewnforio semen ceffyl o drydydd gwledydd.
Deunydd pysgod
16 
Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/88/EC am y gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu, ac am atal a rheoli clefydau penodol mewn anifeiliaid dyfrol.
RHAN 10 Cynhyrchion Pysgodfeydd
Darpariaethau cyffredinol
1 
Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/88/EC ar y gofynion o ran iechyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu, ac ar atal a rheoli clefydau penodol mewn anifeiliaid dyfrol.
2 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/804/EC sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid a gofynion ardystio ar gyfer mewnforio molysgiaid, eu hwyau a'u gametau i ganiatáu iddynt dyfu ymhellach, i'w pesgi, i'w hailddodi neu i'w bwyta gan bobl.
3 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/858/EC sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid a'r gofynion o ran ardystiadau ar gyfer mewnforio pysgod byw, eu hwyau a'u gametau sydd wedi'u bwriadu ar gyfer ffermio, pysgod byw sy'n tarddu o ddyframaethu a chynhyrchion y dyframaethu hwnnw sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
4 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/453/EC sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EC ynglyn â mesurau yn erbyn clefydau penodol mewn anifeiliaid dyframaethu.
Ardystiadau iechyd
5 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/804/EC sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid a'r gofynion o ran ardystiadau ar gyfer mewnforio molysgiaid, eu hwyau a'u gametau i ganiatáu iddynt dyfu ymhellach, i'w pesgi, i'w hailddodi neu i'w bwyta gan bobl.
6 
Penderfyniad y Comisiwn 2003/858/EC sy'n gosod yr amodau o ran iechyd anifeiliaid a'r gofynion o ran ardystiadau ar gyfer mewnforio pysgod byw, eu hwyau a'u gametau sydd wedi'u bwriadu ar gyfer ffermio, pysgod byw sy'n tarddu o ddyframaethu a chynhyrchion y dyframaethu hwnnw sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
7 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) 853/2004 ac (EC) 854/2004.
Trydydd gwledydd y caniateir mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd ohonynt
8 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor.
9 
Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd morol.
Amodau mewnforio arbennig ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd

Unol Daleithiau America
10 
Penderfyniad y Comisiwn 2006/199/EC sy'n gosod amodau penodol ar gyfer mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o Unol Daleithiau America.
RHAN 11 Dehongli'r Atodlen hon
Dehongli
1 
Mae pob cyfeiriad at ddeddfwriaeth Gymunedol yn yr Atodlen hon yn gyfeiriad at y ddeddfwriaeth honno fel y'i diwygir o dro i dro.