
2009 Rhif 371 (Cy.39) (C.45)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2009
Gwnaed 25 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Diwrnodau penodedig
2 

(1) Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 6 Mawrth 2009.
(2) Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1Medi 2009.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
25 Chwefror 2009
YR ATODLEN
Erthygl 2
RHAN 1 Darpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2009

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 1 (1), (2), (3) a (4)(a) i (i) Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn
Adran 2 Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr
Adran 5 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 2 Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr
Adran 6 Pwer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr
Adran 10 Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
Adran 11 Dulliau teithio cynaliadwy
Adran 15 Canllawiau a chyfarwyddiadau
Adran 16 Gwybodaeth am drefniadau teithio
Adran 17(1) a (2) Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall
Adran 19 Penderfynu ar breswylfa arferol mewn achosion penodol
Adran 21 Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002
Adran 23 Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006
Adran 24 Dehongli cyffredinol
Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod Diddymiadau
Atodlen 1, paragraff 2(2)(c) i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff (e) newydd o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 2(3) ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi i mewn gyfeiriad at baragraff (d) o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 4(1) i (4) Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Yn Atodlen 2 diddymiad—
 Deddf Addysg 1996, yn adran 509AA, yn is-adran (2)(d) y geiriau “or the National Assembly for Wales”, is-adran (9A), ac yn is-adran (10) y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”;
 yn adran 509AB, is-adran (4), yn is-adran (6)(c) y geiriau “(in the case of a local education authority in England)”, yn is-adran (6)(d) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos;yn adran 509AC, is-adran (3), yn is-adran (6) y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran, is-adran (7).
 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, adran 83, is-adran (1), yn is-adran (2) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair yn ymddangos, ac is-adran (3);
 Atodlen 10, paragraff 5(b). Diddymiadau
RHAN 2 Darpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 1 Medi 2009

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 3 Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo
Adran 4 Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill
Adran 5 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr
Adran 7 Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16
Adran 8 Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno
Adran 9 Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant
Adran 17(3) Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall
Adran 18 Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo
Adran 20 Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996
Adran 22 Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996
Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod. Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod. Diddymiadau
Atodlen 1, paragraffau 1, 2 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, 3, 4(5), 5 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Yn Atodlen 2, diddymiad—
 Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981, yn adran 46(3)(a) y geiriau “section 509(1) or (1A)”;
 Deddf Trafnidiaeth 1985, yn adran 6(1B) y geiriau “section 509(1) or (1A)” ym mharagraff (a) a'r gair “or” ym mharagraff (b);
 Deddf Addysg 1996,yn adran 444(5) y geiriau “and (4)”, yn adran 455, yn is-adran (1)(c) y geiriau “or 509(2)” ac yn is-adran (2)(b) “or” ar ddiwedd yr is-adran,
 adran 509 i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdod addysg lleol yng Nghymru,
 yn adran 509A, yn is-adran (5), y geiriau “in relation to England,” a pharagraff (b);
 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 133;
 Deddf Dysgu a Sgiliau, 2000, Atodlen 9, paragraff 59;
 Deddf Addysg 2002, Atodlen 19, paragraff 2, Atodlen 21, paragraff 51. Diddymiadau