
2009 Rhif 367 (Cy.37)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009
Gwnaed 23 Chwefror 2009
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adroddiad dyddiedig Ebrill 2008 ar ei adolygiad o gymunedau mewn rhan o Sir Ynys Môn a'i gynigion ar eu cyfer.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009.
(2) At unrhyw ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud.
(3) Mae erthyglau 6, 9 ac 11 yn dod i rym—
(a) at ddibenion gweithrediadau sy'n dod cyn unrhyw etholiad sydd i'w gynnal, neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad o'r fath, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;
(b) at bob diben arall, ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2012.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2009, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”) a “Map D” (“Map D”), yn ôl eu trefn, yw'r mapiau sydd wedi'u marcio ag A, B, C a D o Orchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009 ac sydd wedi'u hadneuo'n unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at un o adrannau etholiadol Sir Ynys Môn; ac
 os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd daearyddol tebyg, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Mae newidiadau wedi'u gwneud yn ardal llywodraeth leol Sir Ynys Môn yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
Trearddur a Chaergybi — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
4 
Mae'r rhan o gymuned Trearddur a ddangosir fel darn rhesog “A” ar Fap A—
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Caergybi;
(b) yn rhan o ward Ffordd Llundain cymuned Caergybi; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Ffordd Llundain.
5 
Mae'r rhan o gymuned Trearddur a ddangosir fel darn rhesog “B” ar Fap A—
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Caergybi;
(b) yn rhan o ward Kingsland yng nghymuned Caergybi; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Kingsland.
6 
Yng nghymuned Caergybi 2 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Kingsland, 2 yw'r nifer ar gyfer ward Ffordd Llundain, 2 yw'r nifer ar gyfer ward Morawelon a 3 yw'r nifer ar gyfer ward Porthyfelin.
Cwm Cadnant a Phenmynydd — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
7 
Mae'r rhan o gymuned Cwm Cadnant a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B —
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Penmynydd; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Llanfihangel Ysgeifiog.
Cwm Cadnant a Phentraeth — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
8 
Mae'r rhan o gymuned Cwm Cadnant a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C—
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Pentraeth; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Pentraeth.
9 
Mae wardiau cymunedol cymuned Cwm Cadnant wedi'u diddymu a 12 yw nifer y cynghorwyr cymunedol sydd i'w hethol ar gyfer cymuned Cwm Cadnant.
Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
10 
Mae'r rhan o gymuned Llanfair Mathafarn Eithaf a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap D—
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Pentraeth; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Pentraeth.
11 
Yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf 2 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Llanbedr-goch.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2009