
2009 Rhif 3341 (Cy.292) (C.152)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009
Gwnaed 16 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 262(2) a (3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
Y diwrnod penodedig
2 
Daw adran 205 o Ddeddf 2009 ac Atodlen 14 iddi i rym ar 12 Ionawr 2010 o ran Cymru.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2009