
2009 Rhif 3258 (Cy.285)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed Tachwedd 8 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym 1 Chwefror 2010
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 22(1), 22(2)(c), 22(2)(d), 22(5)(a) ac 118A o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 fel a ganlyn:—
(2) Ar ôl rheoliad 24(1) mewnosoder rheoliad 24(1A) newydd fel a ganlyn:—
“24(1A) 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau–
(a) nad yw ysbyty annibynnol sy'n darparu triniaeth a nyrsio i gleifion ag anabledd dysgu, y rhagwelir y bydd eu triniaeth a nyrsio yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod o 12 mis, ac y darperir llety dros nos iddynt yn y sefydliad hwnnw, yn fwy na 10 o welyau, ac os yw'n rhesymol ymarferol, fe'u darperir mewn dwy neu fwy o unedau.
(b) nad yw ysbyty annibynnol sy'n darparu triniaeth a nyrsio i gleifion ag afiechyd meddwl (gan gynnwys y rheiny mewn llety diogel o lefel isel neu ganolig) ac hefyd i gleifion ag anabledd dysgu, y rhagwelir y bydd eu triniaeth a nyrsio yn ymestyn y tu hwnt i gyfnod o 12 mis, ac y darperir llety dros nos iddynt yn fwy na 15 o welyau, ac os yw'n rhesymol ymarferol, fe'u darperir mewn dwy neu fwy o unedau.
(c) na fydd ysbyty annibynnol arall wedi ei leoli yn agos iawn at ysbyty annibynnol o'r math ag a grybwyllir yn is-baragraffau (a) neu (b) yn y fath fodd ag y gellid ei ystyried yn luosogiad o'r ysbyty annibynnol, ac y byddai felly yn effeithio ar resymeg a bwriad y cyfyngiadau ar y nifer o gleifion mewn ysbytai annibynnol yn ôl darpariaeth y rheoliad hwn.
Darpariaethau Trosiannol
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob cais newydd gan ysbytai annibynnol i gofrestru ysbyty annibynnol, neu i amrywio cofrestriad ysbyty annibynnol gyda Gweinidogion Cymru sy'n cael ei wneud ar 1 Chwefror 2010 neu wedi hynny.
(2) Ni fydd angen i geisiadau a wneir cyn 1 Chwefror 2010, y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol benderfynu arnynt erbyn 1 Mai 2010, fodloni gofynion y rheoliadau hyn.
(3) Bydd yn rhaid i unrhyw geisiadau a wneir cyn 1 Chwefror 2010 na all Gweinidogion Cymru yn rhesymol benderfynu arnynt erbyn 1 Mai 2010 fodloni gofynion y Rheoliadau hyn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2009