
2009 Rhif 3192 (Cy.277)
PRIFFYRDD, CYMRU
GORCHYMYN CEFNFFORDD LLUNDAIN I ABERGWAUN (YR A40) (GWELLIANT WRTH THE KELL, TREFGARN) 2009
Gwnaed 3 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a phob pŵer galluogi arall:—
1 
Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
2 
Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y map a adneuwyd.
3 
Yn y Gorchymyn hwn:—
 Mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(i) ystyr “y map a adneuwyd” (“the deposited map”)
yw'r map sy'n dwyn y Rhif HA 10/2 WAG 3 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant wrth The Kell, Trefgarn) 2009”, wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU) Llywodraeth Cynulliad Cymru, Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
(ii) ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”)
yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
(iii) ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”)
yw Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40).
4 
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Rhagfyr 2009 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant wrth The Kell, Trefgarn) 2009.
Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru
J Collins
Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
3 Rhagfyr 2009
YR ATODLEN
LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr o oddeutu 0.48 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth bwynt ar y gefnffordd oddeutu 622 o fetrau i'r de o linell ganol y gyffordd â chefnffordd yr A40 â'r ffordd C3059 i Spittal ac sy'n ymestyn i gyfeiriad gogleddol yn gyffredinol at bwynt 112 o fetrau i'r de o gyffordd y gefnffordd â'r ffordd C3059 i Spittal.
